Mae Hafan Cymru yn falch iawn o fod wedi llofnodi addewid Dyma’r Sector Tai, oherwydd credwn fod gyrfa mewn cymorth a thai yn rhoi llawer o foddhad ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl.
Beth yw Dyma’r Sector Tai?
Mae dros 11,000 o bobl yn gweithio i gymdeithasau tai yng Nghymru, gyda mwy na 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi ar sail ran-amser. Mae dros 200 o wahanol swyddi yn y sector a llawer o fanteision i weithio i gymdeithasau tai yn cynnwys gweithio hyblyg gwych, hyfforddiant a phecynnau gwyliau blynyddol.
Er hynny, daeth yn gyffredin dweud i chi ‘ddisgyn i’r sector’ ac ni chaiff ei weld yn aml fel dewis gyrfa ar gyfer rhai sy’n gadael yr ysgol neu brifysgol. Gwelir Dyma’r Sector Tai fel ffordd o arddangos y sector i ystod eang o gynulleidfaoedd.
Dyma lle daw Dyma’r Sector Tai i mewn iddi.
Lansiwyd yr ymgyrch a’r wefan ym mis Medi 2019. Mae’r cynllun sector-gyfan hwn yn cynnig llwyfan i ddweud stori sut beth yw hi i weithio yn y sector ac ehangder y swyddi sydd ar gael. Mae’n rhoi sylw i bobl go iawn, aelodau bwrdd a thenantiaid.
Mae’r wefan yn gweithredu fel teclyn am ddim i gefnogi recriwtio i’r sector ac yn dangos sut beth yw’r sector tai mewn gwirionedd. Mae’n dathlu’r bobl sy’n gweithio yn y gwahanol swyddi ar draws y sector, o gyfathrebu i gyllid, ac adeiladu i adnoddau dynol, a’r rhan y maent yn ei chwarae a’r gwahaniaeth a wnânt, gan ddarparu cartrefi ansawdd da, fforddiadwy a diogel lle mae pobl eisiau byw.
Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol, gyda chanllawiau ar sut i wella amrywiaeth a chynhwysiant, adnoddau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i recriwtio, a deunyddiau marchnata ar gyfer digwyddiadau gyrfaoedd.
Cymerwch olwg ar gwefan Dyma’r Sector Tai: