Rydym yn falch iawn o groesawu aelodau newydd ein bwrdd rheoli, a hoffem ddiolch iddynt am wirfoddoli eu hamser i gefnogi ein sefydliad. Fel cwmni cydweithredol budd cymunedol, mae ein bwrdd rheoli yn bodoli i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth a'n rhanddeiliaid allweddol. Maent yn gwirfoddoli eu hamser i helpu i ddatblygu ein strategaeth a monitro ein perfformiad. Hoffem ddiolch a chroesawu:
Gareth Clubb
Yn ystod ei yrfa, mae ymrwymiad Gareth i gyfiawnder cymdeithasol wedi cynnwys gweithio ym meysydd datblygiad rhyngwladol, yr amgylchedd a gwleidyddiaeth. Trwy weithio i sicrhau newid o lawr gwlad hyd at lefel polisi, mae ganddo brofiad helaeth o arweinyddiaeth, trawsnewid sefydliadau, cyfathrebu a pholisi.
Mae Gareth yn gyn-gyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear ac yn gyn-brif weithredwr Plaid Cymru. Mae ‘nawr yn arwain o ran newid yn yr hinsawdd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Jamie Edwards
Mae Jamie Edwards yn Gyfarwyddwr Cwmni tra phrofiadol ac yn Rheolwr Prosiectau cymwys Prince2 sy’n rhedeg ymgynghoriaeth ysgrifennu ceisiadau arbenigol yn ogystal â busnes peirianneg sifil sy’n arbenigo mewn cynnal a chadw ffyrdd. Mae gan Jamie dros 25 mlynedd o brofiad yn helpu sefydliadau i dendro’n llwyddiannus am werth dros £100 miliwn o gontractau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a nid-er-elw.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu Jamie’n gweithio’n agos gyda sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, GIG Cymru ac amrywiaeth eang o gleientiaid, gan gynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd, CBRE, Siemens, Coleg Sir Benfro, Proactis a llawr mwy. Mae Jamie yn strategydd busnes eithriadol o brofiadol sydd wedi helpu i lunio cynnig cystadleuol nifer o sefydliadau yng Nghymru, y DU a thramor.
Vicky Allen
Mae gan Vicky dros 13 mlynedd o brofiad yng Ngwasanaethau Plant awdurdodau lleol. Wedi gweithio mewn amryw o rolau, gan gynnwys rôl uwch-reoli, mae ganddi ddirnadaeth dda o’r broses o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae Vicky wedi arwain amrywiaeth eang o weithgareddau yn y maes hwn, gan ffocysu ar bopeth o sicrhau ansawdd i ailgynllunio gwasanaethau yn llwyr.
A hithau’n Gyfarwyddwr ei busnes hyfforddi ac ymgynghori ei hun, mae Vicky wedi cymryd rhan mewn prosiectau megis datblygu deunyddiau hyfforddi cenedlaethol i helpu i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ac mae wedi cyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau i archwilio gwasanaethau ac i helpu i’w gwella. Mae Vicky wedi chwarae rhan arweiniol yn adolygiadau cenedlaethol Llywodraeth Cymru, mae wedi helpu i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol, ac mae’n darparu gweithgareddau hyfforddi a datblygu ledled maes gofal cymdeithasol.
Mae Vicky hefyd yn gynghorydd academaidd ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau ar raglenni Cymru gyfan i ddatblygu rheolwyr tîm a rheolwyr canol gofal cymdeithasol. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac mae’n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.
Yo
Gallwch chi gwrdd â gweddill ein bwrdd here