Mae Hafan Cymru yn falch iawn o gael yr achrediad safonol, Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl. Mae hyn yn golygu bod gennym yr egwyddorion a’r arferion ar waith i gefnogi ein pobl a bod pawb yn y sefydliad yn deall sut i’w defnyddio i wneud gwaith yn well!
Rydyn ni nawr yn un o 15,000 sefydliad ar draws 75 gwlad sy’n gweithio’n well ar gyfer ein pobl.
Ers dros 30 mlynedd mae Hafan Cymru wedi bod yn helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd ble maent yn agored i niwed. Rydyn ni’n cynnig ffordd holistaidd i’r gefnogaeth rydyn ni’n darparu ar gyfer menywod, dynion a theuluoedd sydd ag ystod eang o anghenion. Gallai hynny cynnwys rhai sy’n ddigartref, sydd wedi profi cam-drin domestig, sy’n adfer eu hiechyd meddwl, unigolion a phroblemau camddefnyddio sylweddau a chyn-droseddwr. Ein bwriad ydy sicrhau bod ein cleientiaid yn gallu cynnal eu hunain mewn cartref annibynnol yn y gymuned.
Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl:
“Hoffem longyfarch Hafan Cymru. Mae ennill achrediad Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl yn ymdrech arbennig i unrhyw sefydliad. Mae’n gosod Hafan Cymru mewn cwmni da gyda nifer o sefydliadau sy’n deall gwerth pobl.”
Wrth sôn am y wobr dywedodd Sian Morgan, Prif Weithredwr Hafan Cymru:
“Rydyn ni’n hynod falch o ennill yr achrediad hwn. Mae’n gyflawniad bendigedig ac yn adlewyrchu’r gwaith caled parhaol ac ymroddiad ein pobl a’n gymdeithas gyfan.”
Am Fuddsoddwyr mewn Pobl
Yn ystod ein bywydau bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio tua 80,000 o oriau yn y gwaith.
Am rywbeth sy’n cymryd gymaint o’n hamser rydyn ni’n credu bod pobl yn haeddu mwy na dim ond cyflog cyson. Dyna pam yr ydyn ni yn barod wedi helpu mwy na 11 miliwn o bobl mewn 75 gwlad i wneud gwaith yn well.
Ac rydyn ni ond yn dechrau…
Sut ydyn ni’n gwneud hynny?
Rydyn ni’n gwmni diddordeb cymunedol ac mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi ein pwrpas cyn gwneud elw. Mae hynny’n golygu bod popeth yr ydyn ni’n gwneud a phob cyfeiriad rydyn ni’n cymryd er mwyn gwneud gwaith yn well.
Mae sefydliadau sy’n cwrdd â’n fframwaith Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl yn falch o allu arddangos eu hachrediad i’r byd. Maent yn deall taw pobl sy’n gwneud gwaith yn well.