
This November, we are very proud to hand over the keys of our new Ty Coed 2 bedroom bungalow to Montgomeryshire Family Crisis Centre. This was a very important day for us as it was the first property that we have Y mis Tachwedd hwn rydym yn hynod o falch i roi allweddi Tŷ Coed, ein byngalo ddwy ystafell wely newydd, i Ganolfan Argyfwng Teulu Maldwyn. Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig i ni gan mai dyma’r eiddo cyntaf i ni ei ddatblygu ers dros ugain mlynedd ac mae’n gosod y safon am y mathau a’r ansawdd o eiddo rydym am ei ddatblygu yn y dyfodol. Agorwyd yr eiddo yn swyddogol gan Craig Williams, AS dros Sir Drefaldwyn ac ymunodd partneriaid allweddol o Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a’r Heddlu.
“The positive impact this service will have on victims and survivors of domestic abuse being able to access services “Ni ellir pwysleisio gormod yr effaith gadarnhaol y bydd y gwasanaeth hwn yn ei gael ar ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth ddomestig a fydd yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn lleol.” Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
Mae Ty Coed yn gosod y meincnod ar gyfer cyfleuster diogel o ansawdd uchel i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig ac mi fydd yn ased allweddol mewn cynnig ymateb effeithiol i rwystro, a chefnogi goroeswyr camdriniaeth ddomestig ym Mhowys. Mae lleoliad y byngalo yn golygu ein bod ni’n gallu cwrdd ag anghenion dioddefwyr a’u plant, gan eu galluogi nhw i aros yn agos at eu gwaith, rhwydweithiau cymorth ac ysgolion eu plant. Mae’r cynllun newydd hefyd yn golygu ei fod yn hygyrch i bobl sydd ag anableddau neu broblemau symudedd.
Mae ein teulu cyntaf yn barod i symud i mewn ac rydyn ni’n siŵr y byddan nhw wrth eu boddau gyda safon uchel iawn y lle ble y byddant yn byw tra’n cael mynediad at wasanaethau cymorth camdriniaeth ddomestig arbenigol CATM.” Jane Stephens, Rheolwr Cyffredinol, Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn
Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o Hafan Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Powys ac Argyfwng Teulu Maldwyn yn cydweithio yn effeithiol. Mae’n dangos arfer gorau a all gefnogi datblygiad prosiectau yn y dyfodol.