Rydym yn falch o’n hyfforddwyr yng Ngwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru. Gan gyflwyno Ann-Marie…
Mae gan Ann-Marie wybodaeth a phrofiad helaeth yn sector VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol). Gan ddechrau fel ymarferwr, mae hi wedi cael y fraint o gefnogi nifer o oroeswyr cam-drin domestig. Mae hyn yn amlwg yn ei hyfforddiant, sy’n sicrhau bod llais y goroeswyr ym mlaen ei sesiynau.
Mae hi’n fedrus wrth ddatblygu a chyflwyno pecynnau hyfforddi sydd wedi’u teilwra, ac o fudd gwirioneddol i’w thîm a chwsmeriaid.
“Roedd hyfforddiant Ann-Marie yn berffaith ac yn cael ei gyflwyno ar gyflymdra cyson a hawdd i’w ddilyn.”