Fi yw chwaer ganol tair merch, cefais fy ngeni yn Portsmouth, a symudais i Berkshire gyda fy nheulu pan oeddwn i’n 15 oed.
Rydw i wedi gweithio mewn AD am fwy nag 20 mlynedd. Dechreuais fy ngyrfa gan weithio i Tesco yn Burgess Hill ger Brighton. Rydw i wedi gweithio i nifer o’r mudiadau rhyngwladol Dyffryn Tafwys megis GE, Sony, HP, yn ogystal ag Urgent Airfreight a Warehousing. Wedyn symudais i fudiad nid er elw a sylweddolais fod gweithio i gwmni a oedd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned o fwy o fudd i fy lles i, y gweithwyr, y cleientiaid a’u teuluoedd, ac felly penderfynais edrych am fy swydd nesaf mewn sefyllfa debyg.
Roedd symud i Gymru yn benderfyniad enfawr!
Gyda fy mhartner o dros 20 mlynedd, prynais gae – neu 3, cyfanswm o 18 erw gyda 2 erw o goetir, rhan o’r afon Daf, a chaeau. Doedd dim byd yma ar wahân i gaeau gwyrdd a choed anhygoel.
Rydyn ni’n byw oddi ar y grid yn gyfan gwbl, mae gynnon ni 12 panel solar, ffynnon am ddŵr, ac yn defnyddio nwy LPG i’r ffwrn a dŵr poeth. Mae’r paneli solar yn darparu digon o egni i’r goleuadau, y teledu ac eitemau sydd â watedd isel ond i unrhyw beth sydd â gofynion ynni uchel fel tegell, sychwr gwallt, peiriant golchi, ayb, mae’n rhaid inni ddefnyddio’r generadur. Rydyn ni’n storio ynni mewn batris fforch godi yn ystod yr haf, sydd yn wych, ond yn ystod y gaeaf, mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol iawn o ddiwrnodau cymylog a defnyddio trydan, hyd yn hyd, dydyn ni ddim wedi gorfod eistedd yn y tywyllwch.
Adeiladon ni ein tŷ o dan y ddeddf carafán ac ar fin symud cyn bo hir, byddwch chi byth yn deall ein cyffro. Bydd y pethau bach fel gallu agor ffenestr, yn gwneud symud i mewn mor gyffroes.
Gadawais fy swydd yn Berkshire ar noson 27 Tachwedd 2019 ac yn cychwyn yn syth i Gymru. Roedd Jon a ffrind yn barod wedi bod yn gweithio yn y cae i adeiladu tramwyfa. Mae’n rhaid imi gerdded am 10 munud ar hyd llethr 14o i’r car – felly os ydw i’n edrych yn anniben yn y bore, dyna pan – dim sychwr gwallt a llwybr hir a blinedig.
Wedyn daeth Covid, a gan ein bod ni’n Ddatblygiad Un Blaned, mae hyn yn golygu ein bod ni ddim yn gallu defnyddio concrid, plastrfwrdd, brics neu ddeunyddiau eraill na ellir eu hailgylchu. Mae ein cartref newydd yn ysgubor, sydd wedi’i hadeiladu o bren. Yn ffodus, prynon ni’r mwyafrif o’n deunyddiau cyn Covid. Ond, doedd stoc ddim ar gael, cyflenwadau yn cael eu gohirio a phan oedd angen deunyddiau ad hoc arnon ni, roedd y prisiau yn aruthrol.
Mae yna sawl prosiect arall i’w wneud fel adeiladu gweithdy lle byddwn ni’n godro a chadw bwyd, gorffen y dramwyfa fel na fydd angen imi ddefnyddio beic cwad i gwrdd â chyflenwadau bwyd, a ffens er mwyn gallu cael defaid a geifr. Hefyd mae’n rhaid i ni ddysgu sut i gadw gwenyn a mêl. Rydyn ni’n gobeithio cael bocs gonestrwydd y flwyddyn nesaf (2023) gan fod angen inni ennill arian o’r tir, yn dibynnu ar faint sy’n tyfu ohono.
Mae’r Ymddiriedolaeth Afonydd a Choed Cadw wedi rhoi dros 100 o goed yr un er mwyn sicrhau cynaladwyedd a lleihau tirlithriad i’r afonydd.
Yr unig beth dwi heb sôn amdano yw fy mod i’n caru asynnod. Rydyn ni’n bwriadu mabwysiadu o’r warchodfa asynnod yn Sidmouth yn Nyfnaint yn y dyfodol a dwi methu aros!!!