Tîm Sbectrwm Yn Edrych Yn Ôl  

Mae blwyddyn academaidd arall wedi dod i ben ac mae Tîm Sbectrwm wedi bod yn hynod o brysur ledled Cymru.

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb oherwydd effaith y pandemig, ond fel tîm rydyn ni’n falch tu hwnt ein bod ni wedi darparu 1839 o sesiynau i 22,867 o ddisgyblion, a hyfforddiant i 197 o aelodau staff ysgol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau gyda’r gwaith anhygoel hwn yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Hoffen ni ddweud Diolch Mawr Iawn i bob un o’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn ein sesiynau eleni. Rydyn ni’n canmol eich ymrwymiad i ddod â negeseuon allweddol am berthnasau iach i’ch disgyblion trwy ein prosiect. Byddwn ni’n parhau i’ch cefnogi chi wrth ichi ymgorffori’r Cwricwlwm RSE newydd o fis Medi.

Mae eleni hefyd wedi bod yn gyffrous iawn i Brosiect Sbectrwm oherwydd daeth y Gweinidog Addysg yng Nghymru i wylio un o’n sesiynau gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Dywedodd Jeremy Miles AS ei fod yn credu bod y metafforau a ddefnyddiwyd gyda’r  disgyblion yn ystod y wers yn ardderchog am ddysgu gwytnwch; ac roedd yn amlwg iddo bod y plant wir wedi deall.

Hefyd mae hyrwyddiad wedi bod yn wych, gyda BBC Cymru yn mynychu sesiwn yn Abertawe lle trafodwyd hawliau plant, a pherthnasau iach ac afiach. Darlledwyd cyfweliad am y prosiect a barnau gan y disgyblion yn y dosbarth ar newyddion S4C. Hefyd roedden ni’n cyfrannu at raglen ddogfen ar Gam-drin Domestig a Rheolaeth Drwy Orfodaeth wedi’i chyflwyno gan Ruth Dodsworth, a darlledwyd yn Rhagfyr 2021.

Mae ein sylw gan y cyfryngau wedi bod yn anhygoel eleni, ond rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn gydag ein cysylltiadau ar Twitter, gan dderbyn dros 12,000 pan wnaeth Lorraine Kelly ail-drydar ein post am FGM, er enghraifft. Mae Sbectrwm yn brysur iawn yn y cyfryngau cymdeithasol ac mae unrhyw help i hybu’r prosiect yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn.

Gobeithiwn fydd y flwyddyn academaidd nesaf yr un mor anhygoel i dîm Sbectrwm a phob un o’r ysgolion sy’n ymgysylltu â’n prosiect.

Mwynhewch yr haf a chadwch yn ddiogel.