Ein Tîm Sbectrwm yn Croesawu’r Flwyddyn Ysgol Newydd

Croeso Medi 2022, dechrau blwyddyn academaidd arall. Mae’r mis Medi hwn yn garreg filltir arall i Addysg yng Nghymru, wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno. Dechreuodd yr hen gwricwlwm yn 1988, cyfnod cyn siopa ar-lein a Google. Mae’n bryd i symud gyda’n byd sy’n newid yn barhaus.

Mae’r cwricwlwm newydd hefyd yn dod ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) yn ei sgîl, sy’n rhoi i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru fynediad at wersi priodol o safbwynt datblygiad ar berthnasau iach, cadw’n ddiogel, a bod yn hyderus i godi materion gydag oedolion cyfrifol. Mae Prosiect Sbectrwm wedi bod yn arbenigwr ar hyn am dros 15 mlynedd, gan addasu ein sesiynau ac adnoddau i newidiadau i’r gyfraith a’r amgylchedd. Byddwn ni’n parhau i gefnogi llywodraethwyr, athrawon, rhieni, a disgyblion ar bynciau RSE mewn lleoliad ysgol.

Mae ein tîm wedi gweithio’n ddiflino dros wyliau’r haf i gynhyrchu adnoddau sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd a’r cod RSE. Bydd y rhain ar gael ar-lein i’n hysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru o fis Medi.

Rhoddodd y gwyliau haf gyfle i ni gael diwrnod o hwyl gyda’n gilydd hefyd! Cawson ni’r cyfle i fwynhau diwrnod meithrin tîm ardderchog, yn Y Sied, yn

Nantgaredig, gyda chogydd S4C ac awdur dawnus, Lisa Fearn. Dysgon ni rai awgrymiadau pobi defnyddiol, o greu quiche, cacenni surop lemwn a siocled, brownis, saladau a phastai Roegaidd o’r enw Spanakopita, i ddysgu sut i bobi bara a chreu bwrdd pori – gyda digon o gyfleoedd i flasu, wrth gwrs!

Gan ein bod ni wedi ein lleoli ledled Cymru, roedd yn wych gallu treulio amser gyda’n gilydd.

Rydyn ni’n methu aros i fynd yn ôl i mewn i ysgolion i ddechrau cyflwyno sesiynau a rhyngweithio gyda phlant a phobl ifanc unwaith eto.