Siediau Dynion Yr Opera – ar daith 23 hydref i 4 Tachwedd

Mae Shoulder to Shoulder yn opera newydd, wedi’i chreu mewn partneriaeth gyda Siediau Dynion Cymru

Sut ydych chi’n trechu unigedd? Sut ydych chi’n dysgu chwerthin unwaith eto?

Doniol, emosiynol ac yn ysgogi’r meddwl, mae Shoulder to Shoulder yn opera siambr glyd, wedi’i chreu mewn partneriaeth â Siediau Dynion Cymru, elusen sy’n cefnogi dynion hŷn drwy unigedd, gan y cwmni Opera Dinas Abertawe sydd wedi cael lawer o ganmoliaeth.

Bydd yr opera ar daith o 23 Hydref i 4 Tachwedd mewn lleoliadau yng Nghlydach, Pentyrch, Aberhonddu, Aberdaugleddau, y Borth a Chaergybi.

 
Yn ystod y cyfnod clo, casglodd Opera Dinas Abertawe atgofion a straeon aelodau Siediau Dynion Cymru – “Shedwyr” – i greu’r stori lawen hon am rym cyfeillgarwch.

Mae Opera Dinas Abertawe wedi bod wrth eu boddau gyda brwdfrydedd Shedwyr a chorau cymunedol i ddod â Shoulder to Shoulder yn fyw.

Mae gan Shoulder to Shoulder gast gwych o gantorion ac ensemble o gerddorion sydd wedi canu a chwarae mewn cerddorfeydd, cwmnïau a thai opera byd-enwog, gan gynnwys y Royal Opera House, Glyndebourne Festival Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, a London Philharmonic Orchestra. Mae soprano Jess Robinson, sy’n chwarae rhan Gwen yn derfynydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2022. Ym mhob un o’r lleoliadau ar y daith sy’n cynnwys chwe dyddiad, mae Shoulder to Shoulder yn cynnwys doniau côr cymunedol lleol.

Mae BBC Classical Music Online wedi canu clodydd y cwmni: “Cewch eich cyfareddu o fewn munudau.”

Mae opera i bawb. Os ydych chi’n gefnogwr opera, neu os yw opera yn beth newydd i chi, mae Shoulder to Shoulder yn addo bod yn noson allan ysbrydoledig a dyrchafol.

Dewch o hyd i’ch perfformiad agosaf yma
Hafan | Opera Dinas Abertawe | Swansea City Opera

Mae galwad enfawr wedi bod am y prosiect. Mae Opera Dinas Abertawe wedi lansio ymgyrch codi arian drwy Local Giving er mwyn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithdai.

Libreto – Brendan Wheatley
Cyfansoddwr – Lenny Sayers

Rhys – Dyfed Wyn Evans – bariton
Ioan – Robyn Lyn Evans – tenor
Gwen – Jessica Robinson – soprano
Dai – Aled Hall – tenor
Charlie – Mark Saberton

Clarinét a Sacs Tenor – Rhys Taylor
Soddgrwth – Rhian Porter
Offerynnau Taro – Harriet Riley
Cyfarwyddwr Cerddorol a Phiano – John Beswick

Lawrlwythwch Daflen yr Opera yma: