Rydym yn eu helpu i gael eu traed danyn, cyflawni nodau a chael hyd i annibyniaeth. Weithiau, mae’n fater o rannu dull gweithredu newydd. Weithiau, mae’n fater o gael rhywle diogel i fyw. Weithiau, mae’n digwydd trwy’r ystod o wasanaethau y byddwn yn eu datblygu ac yn eu haddasu ar gyfer pob sefyllfa unigol. Buom yn gwneud hyn ers mwy na deng mlynedd ar hugain: helpu dynion, menywod a theuluoedd i ddatblygu’r hyder i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn gallu byw’r bywyd cadarnhaol y mae gan bawb yr hawl i obeithio amdano.

Tîm Sbectrwm Yn Edrych Yn Ôl
Awst | 08 | 2022
Mae blwyddyn academaidd arall wedi dod i ben ac mae Tîm Sbectrwm...
Darllen mwy 
“Llythyr gan Christian (nid ei enw go iawn)”
Gor | 25 | 2022
Darllen mwy Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:
- unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig
- pobl sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth, er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
- ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.
Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy’n brofiadol iawn ac wedi’u hyfforddi’n llawn.
Hyblyg
Teg
Ysbrydoledig
Cyllidwyr a Phartneriaid

































