Cymdeithas dai elusennol yw Hafan Cymru sy’n cynnig tai â chymorth i ddynion, menywod, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rydym yn gweithio’n bennaf gyda rhai sy’n dianc rhag cam-drin domestig, gan eu helpu i adfer eu hannibyniaeth. Felly, rydym yn ymrwymo i achub bywydau ac yn teimlo’n angerddol am hynny.
Rydym yn cynnig pecyn llawn o gymorth i helpu pobl gyda rhychwant eang o anghenion, yn aml yn anghenion cymhleth neu luosog – gan gynnwys rhai sydd wedi dioddef o gam-drin corfforol, rhywiol neu seicolegol; rhai sy’n adfer eu hiechyd meddwl; cyn-droseddwyr; camddefnyddwyr sylweddau; rhai sy’n gadael gofal.
Ers ei sefydlu yn 1989, mae Hafan Cymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn cyflogi 150 o staff, gan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ar draws 16 o’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am ein hanes, cliciwch yma.