Nodau a Gwerthoedd Craidd

Ein Cenhadaeth

Mewn byd delfrydol, dylai fod gan bawb gartref lle gallant ffynnu. Ond nid yw’r byd hwn yn ddelfrydol a dyna pam yr ydym ni yma. Dechreuodd Hafan Cymru fwy na deng mlynedd ar hugain yn ôl er mwyn helpu pobl a oedd yn byw mewn ofn oherwydd cam-drin domestig. Heddiw, rydym ni yma i helpu unrhyw rai sy’n chwilio am gymorth i’w helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair a byw yn dda.

Ein Haddewid

Rydym ni yma i’r sawl sydd am reoli eu perthnasoedd a’u bywyd er mwyn sicrhau dyfodol mwy disglair. Gallai hyn olygu lle diogel i fyw. Gallai olygu gwneud newidiadau yn eu cartref presennol. Ond y mae, bob amser, yn golygu cefnogi pob unigolyn a helpu i roi hwb i’w hyder er mwyn i bobl fedru adeiladu’r bywyd diogel, cadarnhaol y mae ganddynt hawl iddo.

Ein Gwerthoedd

Mae gennym ddrws agored. Bydd pob un sy’n cael cymorth gennym yn cael ei drin yn garedig, fel unigolyn, ac yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd. Rydym yn ymfalchïo yn ein dull gweithredu creadigol, amlochrog a chwbl ddibynadwy. Rydym ni yma – i’r naill a’r llall ac i bob unigolyn sy’n cael cymorth gennym – ar hyd y daith. Trwy gymhwyso’r egwyddorion hyn, ein nod yw rhagori yn ein maes. Gobeithiwn ysbrydoli’r rhai o’n cwmpas a rhannu ein harferion ag eraill a’u helpu nhw i ddarparu canlyniadau cadarnhaol hefyd.

Hyblyg

Ym mhopeth a wnawn.

Teg

Yn y ffordd rydym yn gweithredu.

Ysbrydoledig

Yn y ffordd rydym yn trin pobl.