Hafan Cymru White Logo

Adroddiad Blynyddol 2021-2022

Yn saernïo cyfleoedd i bobl allu byw yn dda.

Cyflwyniad

Siân Morgan

Prif Swyddog Gweithredol

John Morgan

Cadeirydd, Y Bwrdd Rheoli

Mae’n bleser gennym gyflwyno 33ain adroddiad blynyddol Hafan Cymru ar gyfer 2021/22. Mae wedi bod yn flwyddyn ardderchog arall i ni wrth inni weithio’n galed i fod yna i’r bobl rydym yn eu cefnogi. 

Rydym yn ddiolchgar i’n tîm ymroddedig o weithwyr, sydd wedi parhau i sicrhau ein bod ni’n cwrdd â disgwyliadau ein cyllidwyr a rhanddeiliaid, gan gadw’r bobl rydym yn eu cefnogi wrth wraidd popeth rydym yn ei ddarparu bob amser. Rydym yn eithriadol o falch o’n staff a rheolwyr i gyd, a sicrhaodd fod popeth yn parhau drwy anawsterau a heriau’r pandemig. Credwn fod hyn yn gamp arbennig o sylweddol, a gwyddwn ei fod wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. 

Yn ystod blwyddyn ariannol 21-22 gwnaethom gynnydd mewn sawl maes pwysig: 

Cydweithiasom mewn partneriaeth gyda Pobl i ddarparu’r contract Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) ledled Powys. Roedd galw mawr am hyn oherwydd effaith y cyfnod clo a’r cynnydd mewn cam-drin/trais domestig. 

  • Lansiwyd ein datblygiad cyntaf ers yn 1990au – byngalo i bobl sydd ag anableddau wedi’i leoli yn Y Drenewydd. Digwyddodd hyn yn dilyn trafodaethau gydag un o’n partneriaid Canolfan Argyfwng Teulu Sir Drefaldwyn (MFCC) a’r awdurdod lleol yn yr ardal. Canfuwyd angen yn yr ardal, ac aethom ati i greu ateb. Parhaodd y gwaith adeiladu drwy gydol y cyfnod clo, a oedd yn gyflawniad anhygoel, ac fe’i cwblhawyd tua diwedd 2021. 
  • Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rhoddwyd ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i’n staff. Rhoddodd hyn y technegau, gwybodaeth a dealltwriaeth ddiweddaraf iddynt i gadw’n ddiogel wrth iddynt gefnogi hyd yn oed mwy o bobl sy’n wynebu trawma. 
  • Hefyd yn ystod y flwyddyn ariannol, llwyddasom i ennill ail-achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl. 
  • Cyflwynwyd cronfa ddata QL newydd er mwyn rheoli gwaith cynnal a chadw. Mae hyn offeryn defnyddiol i reoli data. 
  • Rhoddwyd ar waith Cascade (System AD a Chyflogres cwbl integredig) a oedd yn symleiddio ein prosesau AD o ddydd i ddydd. Mae’n galluogi gweithwyr i reoli eu gweinyddiaeth AD eu hunain. 
  • Cyrhaeddodd ein Rheolwr Llywodraethu a Sicrwydd restr fer ar gyfer Hyrwyddwr Llywodraethu yng Ngwobrau’r Sefydliad Llywodraethiant Siartredig Y DU ac Iwerddon (CGIUK). Roedd y gystadleuaeth yn gryf iawn ac rydym yn falch iawn bod ein rheolwr ar restr fer y wobr fawreddog hon. 
  • Enillasom gontract Pobl Ifanc Sir Gaerfyrddin i ddarparu cymorth i bobl ifanc o 16 i 25 oed sydd yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Nod y gwasanaeth newydd yw darparu gwasanaeth tai â chymorth dros dro 24 awr i bobl ifanc sy’n agored i niwed. Bydd y cymorth a ddarperir yn canolbwyntio ar werthfawrogi cryfderau pobl ifanc a datblygu eu sgiliau, hyder, a gwytnwch fel y gallant symud ymlaen i fyw bywydau annibynnol. 
  • Cyrhaeddodd Siediau Dynion restr fer BAFTA Cymru, a oedd yn gyflawniad anhygoel. 
  • Roedd prosiect Sbectrwm mewn rhaglen ITV am reolaeth drwy orfodaeth a datblygu perthnasau iach. Arddangoswyd hon yn helaeth gan Lywodraeth Cymru ac ITV. 
  • Ffurfiwyd partneriaeth newydd gydag Adferiad Recovery i ddarparu gwasanaeth newydd ym Mae Colwyn. Mae’n cynnwys dwy uned wasgaredig yng Nghonwy i gefnogi menywod sy’n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), yn ogystal â chamddefnyddio sylweddau a/neu faterion iechyd meddwl sylweddol. 
  • Parhaodd ein gwaith i gael y gwerth gorau o’n hasedau a chomisiynwyd arolwg ar gyflwr y stoc newydd. Hefyd cyflwynwyd strategaeth i sicrhau ein bod ni’n gwireddu llawn botensial ein stoc ac yn ymateb i anghenion comisiynwyr ledled Cymru. Er enghraifft, ail-gyfluniwyd eiddo yng Nghonwy i fynd i’r afael ag angen y comisiynydd am lety argyfwng i bobl ifanc yn yr ardal. 

Mae ein hadroddiad blynyddol yn cynnwys nifer o enghreifftiau pellach o’r gwaith gwych rydym yn ei ddarparu a’n llwyddiannau yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn crybwyll sut y byddwn yn gwthio’r rheini ymhellach dros y misoedd a blynyddoedd nesaf. 

Mae ein cynllun busnes 5 mlynedd yn rhoi mwy o fanylion am ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ein Cenhadaeth: “Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb gartref lle gallant ffynnu; ond nid yw’r byd yn ddelfrydol a dyna pam yr ydym yma i gefnogi pobl i adeiladu dyfodol mwy diogel a disglair fel y gallant fyw yn dda.” Gallwch ddod o hyd i’n cynllun busnes ar ein gwefan www.hafancymru.co.uk/cymraeg 

Er ein bod ni wedi gwneud llawer iawn o gynnydd yn ystod y flwyddyn, rydym yn cydnabod effaith hirdymor y pandemig ar draws y Du ac effeithiau rhyfel yr Wcráin; mae’r rhain yn cynnwys costau cyfleustodau, bwyd a thanwydd uwch, i sôn am rai yn unig. Gwelwyd hefyd newidiadau i gynllunio hirdymor a thoriadau posib mewn gwariant y llywodraeth. Ond, diolch i’n gwytnwch ac ymrwymiad ein cydweithwyr, rydym wedi gallu adeiladu sylfeini cadarn. Mae’r rhain yn rhoi i ni’r hyder sydd angen arnom i wynebu pa heriau bynnag sydd i ddod dros y blynyddoedd nesaf. 

Mae wedi bod yn anrhydedd fawr i barhau i arwain sefydliad mor anhygoel; rydym wedi bod ar daith anghredadwy dros y 6.5 mlynedd diwethaf ac rydym yn falch o sut mae’r busnes wedi esblygu yn ystod y cyfnod hwn. Gwyddom fydd y flwyddyn sydd i ddod yn dod â newid – rydym yn siŵr o hynny – ac rydym yn hyderus bod gennym yr adnoddau, hyder a sgiliau i ymgymryd ag unrhyw heriau y gallwn eu hwynebu. 

Yn olaf, hoffem ddiolch i’r Bwrdd am eu brwdfrydedd ac ymrwymiad diflino; ar ran y Bwrdd Rheoli, hoffem ddiolch o galon i gydweithwyr ar draws y busnes am eu teyrngarwch, ymrwymiad a gwytnwch, i’r comisiynwyr/cyllidwyr am eu cymorth a chanllaw, i’n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus, ac i’r Tîm Rheoleiddio Tai am ei holl arweiniad parhaus drwy gydol y flwyddyn. 

Siân Morgan, Prif Weithredwr 
John Morgan, Cadeirydd 

Ein Pwrpas

Rydym yn cefnogi pobl i gael dyfodol mwy diogel a disglair.

Ein Cenhadaeth

Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb gartref lle gallant ffynnu; ond nid yw’r byd yn ddelfrydol a dyna pam yr ydym yma i gefnogi pobl i adeiladu dyfodol mwy diogel a disglair fel y gallant fyw yn dda.

Ein Gwerthoedd

Teg – ym mhopeth yr ydym yn ei wneud

Hyblyg – yn y ffordd yr ydym yn gweithredu

Ysbrydoledig – yn y ffordd yr ydym yn trin pobl

Ein Haddewid

Credwn y dylai pob unigolyn, cwpl, a theulu y mae angen llety a chymorth arnynt i fyw yn dda gael profiad o wasanaeth y byddem yn hapus i’n teuluoedd a’n ffrindiau ni ein hunain i gael mynediad ato a derbyn.

Neges Gan Ein Noddwr

Yn Rhagfyr 2021, roeddem wrth ein bodd i groesawu Cyflwynydd Teledu, Newyddiadurwr sydd wedi’i henwebu ar gyfer BAFTA Cymru, Ruth Dodsworth, fel ein Noddwr newydd. Bydd Ruth yn ein helpu ni i hyrwyddo ein gwaith hanfodol o gefnogi pobl sy’n dioddef cam-drin domestig. 

“Rydw i’n falch iawn i weithio gyda Hafan Cymru fel ei Noddwr gan helpu codi ymwybyddiaeth am yr holl faterion sy’n gysylltiedig â thrais a cham-drin domestig ledled Cymru. 

Gofynnodd Hafan Cymru imi ystyried cymryd y rôl hon, ac roedd hyn yn golygu llawer i mi ar ôl dioddef perthynas gamdriniol fy hun. Rwyf yn awyddus i wneud unrhyw beth a allaf i gefnogi ei gwaith anhygoel ar ôl deall yr effaith a gafodd ar fy mywyd i, fy mhlant a’n teulu a ffrindiau. 

Rwyf wedi mynychu rhai sesiynau a chynhaliwyd gyda disgyblion ifanc mewn ysgol ac wedi gweld drosof fy hun pa mor sensitif yw Hafan Cymru wrth iddynt ymdrin â’r mater o berthnasau iach. Roedd y modd y cyflëir negeseuon i blant, pobl ifanc ac oedolion yn ysbrydoledig ac yn ysgogi’r meddwl. Roedd yn glir bod torri’r cylch cam-drin a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall sut mae perthynas iach yn edrych yn allweddol, yn ogystal ag ymgorffori dull ysgol gyfan ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin gan hyfforddi athrawon, rhieni a llywodraethwyr. Dyma’r ffordd ymlaen yn bendant. 

Rwyf yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â Hafan Cymru er mwyn codi hyd yn oed mwy o ymwybyddiaeth a helpu lledaenu’r gair am fater mor bwysig ledled Cymru.” 

Ruth Dodsworth 
Cyflwynydd ITV 

Ruth-Dodsworth-crop

Ein Huchafbwyntiau

Tai

Eleni, roeddwn yn falch iawn i agor byngalo pwrpasol, newydd ym Mhowys sy’n cwrdd â safonau symudedd cyfoes. Mae’r byngalo yn cael ei weithredu gan ein partneriaid, Canolfan Argyfyngau Teulu Sir Fynwy, i ddarparu gwasanaethau cymorth o safon uchel i ystod eang o bobl a theuluoedd sydd wedi dioddef neu sydd yn dioddef cam-drin domestig. 

Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn gwneud ein heiddo yn fwy effeithlon o ran ynni i’n tenantiaid, a lleihau ein hôl troed carbon gan amnewid y systemau gwresogi gyda rhai sy’n cyflawni Tystysgrif Perfformiad Ynni cyfradd A. 

Rydym wrthi’n paratoi ein hunain, ein timau, a’n tenantiaid ar gyfer cyflwyniad y Ddeddf Rhentu Cartref (Cymru) newydd. 

Sut Rydym Wedi Cefnogi Pobl

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cynhwysol. Mae ein darpariaeth cymorth wedi ehangu i gynnwys goroeswyr gwrywaidd, pobl LHDTC+ a Phlant a Phobl Ifanc sydd wedi dioddef neu wedi gweld cam-drin domestig. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cefnogi

o oroeswyr gwrywaidd

o bobl LHDTC+

o Blant a Phobl Ifanc (hyd at 25 oed)

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu a gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol, rydym wedi cynnal un o’r Safleoedd Cyswllt o Bell newydd yng Nghymru. Mae safleoedd o bell yn hanfodol oherwydd maent yn cynnig lleoliad diogel i roi tystiolaeth yn erbyn camdrinwyr. Maent yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd goroeswyr cam-drin domestig yn rhoi tystiolaeth. Hyd yn hyn, mae’r achosion a chynhaliwyd o’n hystafell gyswllt o bell wedi cynhyrchu cyfradd lwyddiant o 100% o ran dwyn rheithfarn euog i dramgwyddwyr. 

Wrth i fywyd ddychwelyd i’r arfer eto ar ôl y pandemig, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar les y bobl rydym yn eu cefnogi. Rydym wedi ailgychwyn ein gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ddiogel, fel y clwb brecwast, cerdded yn y parc, gweithio mewn rhandir, adfywio ein gerddi, clybiau llyfrau, ac amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar deulu a phlant. 

Rydym wedi ymrwymo o hyd i hybu sgiliau ein tenantiaid drwy weithgareddau atyniadol. Eleni, rydym wedi ymdrin â hyn yn greadigol gan ddefnyddio lleoedd fel yr Ystafell Ddianc i helpu pobl rydym yn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu, datrys problemau, negodi, gwrando a datrys posau fel grŵp. 

Dathlasom Ruban Gwyn 2021 gan gynnal ymgyrch llwyddiannus yn y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn cynnwys ffigyrau gwleidyddol a chwaraeon blaenllaw o ledled Cymru a oedd yn addo i helpu rhoi terfyn ar drais dynion tuag at fenywod. 

“Petai mwy o bobl fel fy ngweithiwr cymorth, bydden ni’n cael ein cefnogi yn well oherwydd mae hi’n cadw pethau’n broffesiynol ond ar lefel ddynol.”

Gwasanaeth Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA)

Rydym yn darparu’r gwasanaeth IDVA yn rhanbarth Dyfed Powys, ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth. Rydym wedi cefnogi bron i 60% o’r dioddefwyr trais domestig perygl uwch yn yr ardal, heb orfod cyflwyno rhestr aros. 

Mae ein gwasanaeth nawr yn cynnig mynediad cyfartal i oroeswyr gwrywaidd a gan recriwtio IDVA newydd, rydym wedi cefnogi 177 o oroeswyr gwrywaidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. 

Wrth i atgyfeiriadau barhau i godi ac yn dod yn fwy cymhleth, nid yw gweithio aml-asiantaeth erioed wedi bod yn bwysicach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau arbenigol a statudol i ddarparu ymateb cyd-gysylltiedig sy’n mynd i’r afael ag anghenion y goroeswyr i gyd, yn ogystal â’u cadw’n ddiogel. 

Mae’r adnoddau ychwanegol a’r gwelliannau yn y modd yr ydym yn gweithio wedi creu canlyniadau mesuradwy ac rydym wedi cefnogi bron i ddwywaith y nifer o oroeswyr yn y flwyddyn 2021-22, o gymharu â’r un cyfnod yn 2020-21. 

Gwasanaethau Hyfforddi a Chyflogadwyedd

Mae 2021/22 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iawn i’n Hadran Gwasanaethau Masnachol, sydd wedi rhagori ar bob disgwyl. 

Mae ein cynnig hyfforddi yn parhau i dyfu bob blwyddyn. Parhawyd i ehangu yn y sector VAWDASV ac wedi datblygu cyrsiau a rhaglenni newydd a oedd yn ein galluogi ni i gyrraedd 10% mwy o gwsmeriaid o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Cyflawnwyd rhaglen “Gweithio gyda Dioddefwyr Gwrywaidd Cam-drin Domestig” yn llwyddiannus ar ran Llywodraeth Cymru. Ar ôl mynychu’r cwrs, dywedodd 100% o gyfranogwyr eu bod nhw’n teimlo’n fwy hyderus wrth ymdrin â datgeliad gan oroeswr gwrywaidd. 

Yn ystod y flwyddyn, buom yn gweithio yn agos gydag Awdurdod Lleol Ceredigion i gyflwyno model hyfforddiant lles pwrpasol i’w gweithwyr. Darparodd y model ddulliau gwahanol o hyfforddi gan gynnwys cymorth 1 i 1, gweithdai Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, a chyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid ac Oedolion. 

Roedd ein prosiectau cyflogadwyedd yn arbennig o lwyddiannus y llynedd, a sicrhawyd 22 contract Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), darparwyd cymorth i dros 680 o bobl a galluogwyd 84% o’n cleientiaid Canolfan Byd Gwaith i gyflawni eu canlyniadau. 

Highlights---Supporting-People-1
“Roedd yn anhygoel! Mae wedi helpu fy hyder yn fawr iawn – heb y cymorth gan Hafan Cymru, byddwn i ddim wedi gallu mynd am y swydd – rydw i’n mynd allan nawr. Rydw i’n edrych ymlaen at y dyfodol nawr – rydw i’n teimlo’n fwy optimistaidd.”

Sbectrwm

Cafodd ein tîm Sbectrwm flwyddyn brysur iawn gyda sawl ymweliad gan y cyfryngau. Ffilmiodd S4C ein sesiwn ar hawliau plant a pherthnasau iach ac afiach am raglen ddogfen am y ffaith bod cosbi plant yn gorfforol yn dod yn anghyfreithlon yng Nghymru. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ddogfen ITV wedi’i seilio ar brofiad Cyflwynydd Teledu Ruth Dodsworth, yn tynnu sylw at effaith ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol. Roedd y ddwy raglen ddogfen yn gyfle i hybu’r gwaith ardderchog rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc, gan eu helpu nhw i ddeall eu hawliau a meithrin perthnasau parchus, iach. 

Roeddem hefyd yn falch i gael ymweliad gan Weinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles AS, a arsylwodd ein sesiwn ar Gylch Diogelwch. Mae hwn yn archwilio diogelwch personol, deall yr hawl i deimlo’n ddiogel ar-lein, gartref, yn yr ysgol a phobman arall drwy’r amser. Mae’n cydnabod teimladau diogel ac anniogel a gwybod lle i fynd os nad ydych yn teimlo’n ddiogel. Dywedodd ei fod yn credu bod y metafforau a ddefnyddiwyd yn ystod y wers yn ardderchog am ddysgu’r disgyblion am wytnwch. 

Cynhyrchwyd ein cyfres gyntaf o animeiddiadau, i gyd yn canolbwyntio ar gymorth priodol i’w hoed, i blant a phobl ifanc. 

Cyfnod sylfaen (3-7) https://youtu.be/d3z6Nz7YKvw

Cyfnod allweddol 2 (7-11) https://youtu.be/SQc_G59Y8bI

Cyfnod allweddol 3(11-14) https://youtu.be/KfqopfiQvKI

Gellir dod o hyd i’r animeiddiadau i gyd ar wefan Sbectrwm: www.spectrumproject.co.uk

Spectrum-2

Siediau Dynion Cymru

Adeiladasom fudiad Siediau Dynion yng Nghymru o lawr gwlad i fynnu, i ffurfio rhwydwaith bywiog, sy’n ffynnu. Cawsom ein cynnwys yn y rhaglen ddogfen fer BBC, The Nest, sydd wedi cael ei henwebu yng ngwobrau BAFTA Cymru BBC. 

Ar ôl i’r cyfnod clo a chyfyngiadau’r pandemig ddechrau llacio, anfonwyd pecynnau “dychwelyd i’r sied” i siediau dynion ledled Cymru gyda the, coffi, marsiandïaeth a deunydd darllen, gan eu gwahodd nhw i ymuno â ni unwaith eto yn y cymunedau. 

Derbyniodd dros 30 o ddynion gymorth eiriolaeth a lles 1 i 1 uniongyrchol. 

Rydym wedi bod yn brysur yn hybu ein gwaith drwy wefan newydd sydd nawr yn cynnwys llyfrgell o wybodaeth lles; a chylchlythyr chwarterol newydd – SHarED. 

“Mae’r disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol iawn i’r sesiynau y mae Sbectrwm yn eu cyflwyno. Mae’r adnoddau a ddefnyddir o ansawdd uchel ac yn ategu’r gwersi, sydd wedi’u cynllunio’n ofalus ac yn unol â chanllaw cyfredol – mae hyn yn rhoi tawelwch meddwl i ysgolion. Mae’r gwersi yn hygyrch ac atyniadol iawn i’n disgyblion i gyd. Mae pynciau cymhleth yn cael eu trin mewn modd diffwdan ond sensitif. Mae cael arbenigwr yn y dosbarth yn ychwanegu dwyster i’r sesiwn!”

Cefnogi a Dathlu Ein Cydweithwyr

O ganlyniad i’w gwaith caled ac ymroddiad, cyrhaeddodd ein Rheolwr Llywodraethu a Sicrwydd restr fer ar gyfer “Hyrwyddwr Llywodraethu y Flwyddyn” yng Ngwobrau’r Sefydliad Llywodraethiant Siartredig 2021 mawreddog! 

Rydym yn parhau i ofalu am ein cydweithwyr drwy: 

  • datblygu gallu ein timau drwy hyfforddiant cydnabyddedig yn y sector fel pecyn cymorth Trawma a Phrofiadau Niweidiol Plentyndod (ACE) ac achrediad Respect, ymhlith eraill, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru; 
  • sicrhau eu bod nhw’n cael eu diogelu gyda pholisïau wedi’u diweddaru, a chael system rheoli Iechyd a Diogelwch sy’n cyd-fynd ag ISO45001; 
  • ennill ail-achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl, gan ennill sgorau uwch ar draws pob categori. 

Fel rhan o’n gwaith parhaus i ymgysylltu â’n cydweithwyr, cynhaliwyd sawl Diwrnod Strategaeth ledled Cymru. Roedd y rhain yn rhoi cyfle i dimau drwy’r busnes cyfan i helpu gosod ein blaenoriaethau busnes ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

O ganlyniad, rydym wedi gwrando ar ein pobl ac wedi creu grwpiau ymgysylltu â chydweithwyr sy’n canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; yr Iaith Gymraeg; Iechyd a Diogelwch; Rheoli Risg; Ymgysylltu â Chydweithwyr: a Phanel Pobl. Mae’r grwpiau wedi bod yn gerbyd ardderchog i ysgogi gwelliannau parhaus yn y busnes. 

Mae ein gweddnewidiad digidol wedi dechrau o ddifrif – gan ddechrau gyda chyflwyniad systemau AD a chyllid awtomataidd newydd. Mae ein gwefan hefyd wedi cael ei hadnewyddu i gynnwys diweddariadau gan gydweithwyr ar yr hyn sy’n digwydd ar draws y busnes. Nawr mae yna dudalen recriwtio wedi’i ddiweddaru i gynnwys fideo sy’n arddangos pa mor wych yw gweithio gyda ni. 

“I fod yn hollol onest, y staff gorau sydd!”
“Rydw i nawr yn teimlo lot fwy diogel oherwydd mae Hafan Cymru wedi helpu fi i symud i dŷ mwy diogel lle dydw i ddim yn teimlo fy mod i mewn perygl.”
“Diolch am eich cefnogaeth. Oni bai am y gweithwyr cymorth, byddai fy mywyd wedi bod yn wahanol.”

Ein Perfformiad

Gweithrediadau

IDVA

Nifer y bobl a gefnogwyd (59% o gyfanswm y ddarpariaeth yn rhanbarth Dyfed Powys)

Teuluoedd yn Gyntaf

Nifer y bobl a gefnogwyd

Grant Cymorth Tai (HSG)

Nifer y bobl a gefnogwyd

Anghenion Cymorth

Chart by Visualizer

Anghenion Cymorth Eraill

Chart by Visualizer

Wrth Ymadael a Chefnogaeth HC

Wrth iddynt ymadael â Hafan Cymru, dyma beth a ddywedodd ein cleientiaid wrthym. 

Fy hyder a hunan barch

Fy ngallu i gadw'n ddiogel

Fy ngallu i fyw'n annibynnol a rheoli ty

Fy ngallu i ddod o hyd i hyfforddiant neu waith

Hobiau, diddordebau, ffrindiau

Fy iechyd emosiynol ac ymdeimlad o les

Lefel fy hyder i ofalu am fy mhlant

Hapusrwydd a lles fy mhlant

Ymgysylltiad fy mhlant a gwasanaethau addysgol

Fy hyder wrth gyfathrebu gyda gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau a chael yr hyn sydd angen arnaf

Sut Byddwch yn graddio eich cyfleoedd i gymryd rhan

Ymatebion yn ol awdurdod lleol

“Mae cael cymorth gyda fy nyledion, diogelwch fi fy hun a fy mhlant, a’r gefnogaeth emosiynol wedi bod yn wych. Nawr mae gen i fwy o hyder wrth ofyn am y cymorth sydd angen arnaf i a fy mhlant. Rydych chi wedi bod yn anhygoel. Ar y dechrau, pan oeddwn i ar fy ngwaethaf, roeddech chi yna i mi o hyd. Heb eich help, ni fyddwn i ble’r ydw i nawr. Roeddech chi bob amser yn gwrando pan oeddwn i’n isel, yn ogystal â fy nghefnogi i, aethoch chi y tu hwnt i’ch swyddi. Byddwn i wedi bod ar goll heb y cymorth rydw i wedi’i dderbyn.”

Tai

% gwaith trwsio brys a gyflawnwyd o fewn yr amserlen darged (h.y. yn cael sylw o fewn 4 awr a sicrhau bod pethau’n ddiogel a’r gwaith wedi’i gwblhau o fewn 5 niwrnod gwaith)
0%
% cwblhad Profion Dyfeisiau Cludadwy (PAT) (eiddo)
0%
% cydymffurfiaeth â SATC
0%
Legionella – eiddo/swyddfeydd sydd ag asesiad risg dilys (cyfanswm allan o 104)
0%
% eiddo/swyddfeydd sydd â phrofion larwm tân wythnosol diweddaraf
0%
% eiddo/swyddfeydd sydd â gwiriadau goleuadau argyfwng misol diweddaraf
0%
% cwblhad profion diogelwch nwy
0%
% cwblhad Profion Cyfarpar Trydanol Sefydlog
0%
% eiddo/swyddfeydd sydd ag asesiad risgiau tân dilys (cyfanswm allan o 15)
0%
% arolygon asbestos wedi’u cwblhau
0%
% eiddo/swyddfeydd sydd ag ymarferion larwm tân bob 6 mis diweddaraf
0%
% eiddo sydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni diweddaraf
0%

Sut byddwch yn graddio ein tai?

Rate-repairs-wel

Sut byddwch yn graddio ein gwasanaeth atgyweirio?

Boddhad Tenantiaid

O ystyried popeth, pa mor fodlon neu’n anfodlon ydych chi...

Gyda’r gwasanaeth a ddarperir gan Hafan Cymru?
0%
Gyda’ch cymdogaeth fel lle i fyw?
0%
Bod eich taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian?*
0%
Bod Hafan Cymru yn gwrando ar eich barnau ac yn gweithredu arnynt?
0%
Y ffordd y mae Hafan Cymru yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
0%
Bod Hafan Cymru yn rhoi llais i chi ar sut mae gwasanaethau yn cael eu rheoli?
0%
Gydag ansawdd cyffredinol eich cartref?
0%
Bod eich rhent yn darparu gwerth am arian?
0%
Gyda’r ffordd y mae Hafan Cymru yn delio ag atgyweiriadau a chynnal a chadw?
0%
Bod Hafan Cymru yn darparu cartref sy’n saff a diogel?
0%
Y cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau Hafan Cymru?
0%
Rydw i’n ymddiried yn Hafan Cymru?
0%

*Ystyriwyd y tâl gwasanaeth gan rai pobl i olygu eu cyfraniad personol i daliadau byw wedi’u rhannu 

Gwasanaethau Hyfforddi

Nifer yr unigolion a hyfforddwyd
+
Nifer y mudiadau cyhoeddus/statudol a hyfforddwyd
+

Hyfforddiant a ddarparwyd 2021/22

Chart by Visualizer
“Gweithion ni gyda Hafan Cymru i ddarparu rhaglen o hyfforddi iechyd meddwl a lles. Roedd y rhaglen yn cynnwys cymorth un i un, sesiynau grŵp yn ogystal â Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion ac Ieuenctid achrededig. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Hafan Cymru wedi bod yn ardderchog, roedd eu hagwedd ac ymateb i’n hanghenion hyfforddiant pwrpasol a brys, yn gyflym, hyblyg a chreadigol. Mae adborth gan staff wedi bod yn ardderchog a gyda chanmoliaeth uchel am ansawdd y cymorth iechyd meddwl a lles un i un a ddarparwyd. Nododd 98% o ddysgwyr gynnydd yn eu gwybodaeth.”
Tîm Dysgu a Datblygu Cyngor Sir Ceredigion
“Roeddwn i’n meddwl bod yr hyfforddiant (y cynnwys a’r cyflwyniad) yn ardderchog. Llawn gwybodaeth, wedi’i strwythuro’n dda ac yn dangos profiad helaeth yn hyderus. Roedd cymysgedd y ddarpariaeth yn cyd-fynd gyda’i gilydd yn dda iawn ac yn cynnig dysgu newydd beth bynnag oedd eich gwybodaeth flaenorol.”

Ystadegau cyflogadwyedd

Nifer y contractau a ddarparwyd

+

Nifer y bobl a gefnogwyd

%

% o gwsmeriaid a gyflawnodd eu gôl

“Roedd yn anhygoel! Roedden nhw’n helpu fy hyder i fynd am swydd – rydw i’n mynd allan nawr. Rydw i’n edrych ymlaen at y dyfodol nawr – rydw i’n teimlo’n fwy optimistaidd.”
‘Roeddwn i am ddweud diolch enfawr am fy nghyfeirio i at Hafan Cymru. Mae fy Ngweithiwr Cymorth Cyflogaeth yn anhygoel. Mae hi wedi fy nysgu i am dechnegau anadlu a meddwl yn gadarnhaol ac mae gweithio gyda hi yn wych.”

Sbectrwm

Cyfanswm y myfyrwyr a gyrhaeddwyd

Cyfanswm yr athrawon mewn sesiwn

Cyfanswm y sesiynau

Cyfanswm yr athrawon mewn hyfforddiant

Men's Sheds Cymru

Siediau Dynion

Siediau dynion gweithredol

Siediau newydd

Siediau sy’n cael eu datblygu

Gwasanaethau Pobl

Ein Nodau Strategol

Gosodwyd ein blaenoriaethau i’r 5 mlynedd nesaf drwy gyfres o Ddiwrnodau Strategol ledled Cymru gyda’n timau. Cymerodd dros 80% o’n cydweithwyr ran gan gynhyrchu dros 800 o syniadau! Ffurfiodd y rhain sylfaen ein Nodau Strategol ar gyfer 2022-2027. 

Nodau Strategol 2022-2027 

  1. Twf Cynaliadwy – Rydym am gadw ein contractau craidd presennol, ennill busnes newydd a datblygu cynnig masnachol cystadleuol. Mae gan hyn bwysigrwydd strategol: mae’n cefnogi ein huchelgeisiau i dyfu a darparu gwasanaeth cynaliadwy ledled Cymru. 

  2. Brandio – Rydym wedi esblygu ac nid yw ein brandio presennol mwyach yn adlewyrchu ein DNA. Mae arnom eisiau brand newydd a fydd yn golygu bod pawb sy’n ymwneud â ni, o’r bobl rydym yn eu cefnogi i aelodau tîm, rhanddeiliaid a chomisiynwyr, yn deall pwy ydym a’r hyn rydym yn ei gynnig. 

  3. Denu a Chadw Pobl – Ein pobl yw ein hased fwyaf, felly mae denu a chadw’r bobl gywir – pobl sydd â’r gwerthoedd a’r ymddygiadau cywir – yn hanfodol i’n llwyddiant a thwf yn y dyfodol. 

  4. Gweddnewidiad Digidol – Mae gweddnewidiad digidol yn her graidd, gan ei fod yn effeithio ar sut yr ydym yn gweithredu a chystadlu. Mae gan bron i bob adran o’n busnes gyfle i ddod yn fwy effeithiol ac effeithlon gan wneud gwell defnydd o dechnoleg ddigidol. Gall gweddnewidiad digidol hefyd helpu i ni greu dyfodol cynaliadwy. 
  5. Tai Diogel – Mae ein stoc dai yn adnodd sylfaenol inni allu darparu ein gwasanaeth, a ni welwn hyn yn newid dros y 5 mlynedd nesaf. Elfen allweddol o’n cynllun twf yw ein hwb i wella ein stoc bresennol a chynyddu ein capasiti. Rydym mewn sefyllfa ariannol dda i ystyried buddsoddi yn yr agwedd hon, felly mae nawr yn amser da i flaenoriaethu stoc dai o bwysigrwydd strategol. 

Ein Llywodraethiant

Cydymffurfiaeth â Chod Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn pennu’r egwyddorion ac arferion a argymhellir ar gyfer llywodraethiant da. Rydym yn ei ystyried yn offeryn ar gyfer gwelliant parhaus, yn ein helpu ni i gyflawni’r safonau uchaf o ran llywodraethiant. Mae Bwrdd Hafan Cymru yn mesur ac yn myfyrio ar ein cydymffurfiaeth â’r saith egwyddor a amlinellir yn y cod, ar sail flynyddol. 

Cytunodd y Bwrdd fod cydymffurfiaeth Hafan Cymru â’r cod wedi cael ei dangos, a’i bod wedi dangos ystod o welliannau o safle 2020/21. 

Cyfrifoldebau Bwrdd

Arweinir y Gymdeithas gan Fwrdd o hyd at 12 aelod anweithredol, gwirfoddol sydd yn dal un bleidlais yn un. Mae ein Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn cael eu penodi’n flynyddol gan y Bwrdd yn y cyfarfod cyntaf ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ysgrifennydd y Cwmni yw’r Prif Weithredwr. 

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyffredinol dros reoli materion y Gymdeithas. Y Bwrdd yw’r corff strategol sy’n llunio polisi; mae’n gosod targedau ac yn monitro perfformiad. 

Swyddogaethau hanfodol y Bwrdd yw i: 

  • Diffinio ein gwerthoedd ac amcanion a sicrhau ein bod ni’n cadw’n driw iddynt; 
  • Cymeradwyo ffyrdd o gyflawni ein hamcanion a gwneud penderfyniadau ar unrhyw beth sy’n peri risg ariannol neu arall; 
  • Cymeradwyo ein cyfrifon blynyddol, cyllideb flynyddol, cynllun busnes pum mlynedd a rhagolygon ariannol 30 mlynedd; 
  • Creu a goruchwylio fframwaith sydd yn penderfynu ar yr hyn sy’n cael ei ddirprwyo i bwy a sut y strwythurir a rheolir systemau mewnol; 
  • Sefydlu a goruchwylio fframwaith am gydnabod a rheoli risgiau; 
  • Monitro ein perfformiad, gan ystyried adborth gan gwsmeriaid a pherfformiad sefydliadau tebyg; 
  • Penodi (ac, os bydd rhaid, diswyddo) y Prif Weithredwr a (ar argymhelliad y Pwyllgor Cyflogaeth a Thâl) cymeradwyo ei gyflog a thelerau ei gyflogaeth; 
  • Sicrhau bod ein materion yn cael eu cynnal yn gyfreithlon ac yn unol â safonau perfformiad a chywirdeb sy’n gyffredinol dderbyniol; 
  • Cymeradwyo ein Cofrestr Asedau a Dyledion; 
  • Cymeradwyo ein Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd; 
  • Sefydlu a goruchwylio fframwaith cydymffurfiaeth ag anghenion Iechyd a Diogelwch landlordiaid ac iechyd, diogelwch a lles ehangach ein pobl a’n gwasanaethau. 

Mae’r Bwrdd yn dirprwyo rhai o’i gyfrifoldebau i’r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio, Pwyllgor Cyflogaeth a Thâl, Pwyllgor Llywodraethiant a Risg ac i Swyddogion Gweithredol a gyflogir gan y Gymdeithas i’w cyflawni. 

Pwyllgor Cyllid ac Archwilio (CacA)

Cynhelir o leiaf pedwar cyfarfod y flwyddyn. Mae Swyddogion Gweithredol ac Archwilwyr y Gymdeithas yn mynychu’r cyfarfodydd. Rôl y CacA yw bod yn annibynnol. Mae’n ystyried a gwneud argymhellion i’r Bwrdd ynglŷn â’n rheolaethau mewnol. Mae’n cymryd trosolwg o’n cyllid ac yn ystyried materion gwerth am arian yn ogystal â chywirdeb. Mae ei weithrediad yn dilyn Cod Ymarfer Archwilio Llywodraeth Cymru. 

Pwyllgor Cyflogaeth a Thâl (CaT)

Cynhelir dau gyfarfod y flwyddyn ac mae Swyddogion Gweithredol yn mynychu’r cyfarfodydd. Rôl CaT yw ystyried materion sy’n ymwneud â’r gweithlu mewn agweddau cyflogaeth, dysgu a datblygu. 

Pwyllgor Llywodraethiant a Risg (LlaR)

Cynhelir dau gyfarfod y flwyddyn ac mae Swyddogion Gweithredol yn mynychu’r cyfarfodydd. Rôl CaT yw ystyried materion sy’n ymwneud â llywodraethiant y gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys sut caiff Cod Llywodraethiant CHC ei roi ar waith a’i fonitro. 

Recriwtio Aelodau’r Bwrdd

Mae aelodau’r Bwrdd yn gyfrifol am recriwtio a dewis aelodau, wedi’u cefnogi gan y Prif Weithredwr a swyddogion yn ôl y gofyn. Mae aelodau’r Bwrdd yn y pen draw yn atebol i’n rhanddeiliaid, preswylwyr, cyllidwyr, gweithwyr, yr awdurdod lleol, y gymuned ehangach a chwsmeriaid y dyfodol ynghyd â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a Llywodraeth Cymru. Disgwylir i aelodau gydweithio yn adeiladol i sicrhau eu bod nhw’n gweithredu fel “gwarcheidwaid” ein cenhadaeth a’n gwerthoedd. Mae’r Bwrdd yn gweithio i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn nhermau amrywiaeth, gan gynnwys oedran, rhyw a grwpiau lleiafrifol. Caiff aelodau eu recriwtio yn gyntaf ac yn bennaf ar gryfder eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: cyfreithiol, busnes, cymunedau, ariannol, llywodraethiant, technegol, tai a’r sector cyhoeddus, ac adnoddau dynol. 

Rheoli Risg

Y Bwrdd Rheoli yn y pen draw sy’n gyfrifol am reoli risgiau ac mae’n ymrwymo i gynnal fframwaith rheoli risg cadarn ac effeithiol sy’n diogelu cyflawni ein cenhadaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau. 

Mae’r Bwrdd yn cymeradwyo’r Gweithdrefnau, Polisi a Strategaeth Risg gan adolygu’r gofrestr risg lawn yn flynyddol o leiaf. Mae Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd (FSB) yn cynnwys Cofrestr Sicrwydd Risg sy’n darparu manylion y pedair llinell o sicrwydd ar risgiau uchaf y Gymdeithas. Adolygir hon o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae’r FSB hefyd yn cynnwys Cofrestr Rheolaethau Mewnol gyda manylion y pedair llinell o sicrwydd ar gyflawni prif weithgareddau a chyflawniadau. Mae’r Bwrdd yn dirprwyo cyfrifoldeb o fonitro rheolaeth risg ariannol effeithiol i’r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio, a phob risg arall i Bwyllgor Llywodraethiant a Risg, sydd, yn ei dro, yn ymddiried y cyfrifoldeb am reoli risg o ddydd i ddydd i’r tîm gweithredol. Mae’r ddau bwyllgor yn adolygu’r risgiau strategol perthnasol ym mhob cyfarfod ac yn cymeradwyo Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd cysylltiedig ar gyfer ei gyflwyno i’r Bwrdd wedi hyn. 

Mae rheoli risg yn effeithiol yn rhan annatod o reoli’r sefydliad a’r “ffordd rydym yn gwneud pethau yma” ac na chaiff ei ystyried fel risg ychwanegol. 

Mae buddion rheoli risg yn llwyddiannus yn cynnwys: 

  • helpu Rheolwyr Uwch i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth gan ystyried risgiau. 
  • hybu perfformiad ariannol a gweithredol effeithiol 
  • torri’r posibilrwydd o dwyll a thrychinebau o ran enw da 
  • hybu rheolaeth pobl i leihau trosiant staff, absenoldeb a straen 
  • creu gwytnwch yn wyneb yr amodau amgylcheddol sy’n newid 
  • codi lefelau sicrwydd gan arolygiadau allanol ac archwiliad 
  • tawelu meddwl rhanddeiliaid bod risgiau yn cael eu rheoli. 

Rydym wedi mabwysiadu strategaeth reoli risg sydd yn golygu ein bod ni’n gallu cyflawni amcanion yn y modd gorau, mwyaf effeithiol, yn seiliedig ar: 

  • ymagwedd gyffredin, strwythuredig a chanolbwyntiol i reoli risg 
  • ymgorffori rheoli risg yn ein diwylliant 
  • rheoli risg a manteisio ar y cyfleoedd i gwrdd â’n hamcanion 
  • diffiniad clir o awydd y Bwrdd am risg. 

Diffiniad Risg

Gellir disgrifio risg fel digwyddiad neu set o ddigwyddiadau ansicr a all, pe bai’n digwydd, gael effaith (dda neu ddrwg) ar gyflawni amcanion. Nid yw risg ynddo’i hun yn beth drwg bob amser ac nid oes gweithgaredd heb rywfaint o risg. 

Ein Hawydd am Risg

Amlinellir y lefelau a’r mathau o risg rydym yn fodlon i’w derbyn wrth inni anelu at ein hamcanion yn ein Datganiad Awydd am, a Goddef Risg. Mae ein Bwrdd Rheoli a Thîm Gweithredol yn adolygu’r datganiad ar sail flynyddol ac mae’n rhaid i bob un ei ddilyn. 

Sut y Byddwn yn Rheoli Risg

Mae agwedd gymesur Hafan Cymru i reoli risg yn annog rhywfaint o gymryd risg, gan alluogi’r Gymdeithas i elwa o gyfleoedd. Pe na chymerir unrhyw risgiau, mae perygl y gallwn golli cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd arloesol. 

Mae gennym gofrestri risg ar waith ar lefel strategol (Bwrdd) a lefel gweithredol (Tîm Rheoli Uwch). Adlewyrchir statws pob risg o fewn y cofrestri i ddangos sefyllfa tebygolrwydd ac effaith gyfun ar ôl i reolaethau cael eu rhoi ar waith a’u bod nhw’n gweithio’n effeithiol, ac fe’u cyflwynir gan ddefnyddio sgôr coch, ambr a gwyrdd. Mae’r Blaenoriaethau Strategol yn alinio â nodau/amcanion ein Cynllun Busnes. 

Fframwaith Rheoli Risg

Mae rheoli risg yn broses barhaol y mae angen iddi gael ei hymgorffori yn ein systemau i gynorthwyo gwneud penderfyniadau, ateblorwydd a gwella systemau. Rhennir y broses yn bum cam fel y dangosir isod: 

Asesu Risgiau

Asesir pob risg yn nhermau effaith a’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd. Mae’r Gymdeithas yn defnyddio dosbarthiad Coch, Ambr Gwyrdd (RAG) ar gyfer Risgiau Strategol a Choch, Ambr, Melyn, Gwyrdd (RAYG) ar gyfer Risgiau Gweithredol i gyflwyno’r “statws risg presennol”. Mae hwn yn diffinio lefel y risg sy’n cael ei wynebu gan y Gymdeithas os caiff y rheolaethau a nodwyd eu gweithredu’n effeithiol. Mae hyn yn seiliedig ar y meini prawf canlynol: 

Risgiau Strategol

Tebygolrwydd

Diffiniad
Arweiniad – pob risg
Tebygol Iawn (Coch)
Yn fwy tebygol o ddigwydd na pheidio, efallai sawl gwaith o fewn cyfnod o un flwyddyn
Posibl (Ambr)
Yn eithaf tebygol o ddigwydd, efallai unwaith o fewn cyfnod o un flwyddyn
Annhebygol (Gwyrdd)
Gall ddigwydd yn y tymor hwy ond nid o fewn y pum mlynedd nesaf

Effaith

Er enghraifft 

Maes y risg strategol
Bach (gwyrdd)
Difrifol (ambr)
Mawr (coch)
Ariannol
Byddai’n effeithio ar ein gallu i ddarparu ein cyllidebau blynyddol, a lle mae 66% o Risgiau Gweithredol yn Wyrdd, ac nid yw unrhyw risg unigol yn Risg Strategol Mawr
Byddai’n effeithio ar ein gallu i ddarparu ein strategaeth bum mlynedd, a lle mae 66% o Risgiau Gweithredol yn Wyrdd, ac nid yw unrhyw risg unigol yn Risg Strategol Mawr
Byddai’n arwain at fethdaliad, argyfwng hylifedd, neu achos difrifol o dorri cyfamod benthyciad

Risgiau Gweithredol

Mae’r model hwn o asesu Risgiau Gweithredol yn cynnig sicrwydd i’r Tîm Gweithredol wrth benderfynu ar lefelau Risgiau Strategol. 

Tebygolrwydd

Effaith

Diffiniad
Tebygol iawn (Coch)
Yn fwy tebygol o ddigwydd na pheidio, efallai sawl gwaith o fewn cyfnod o un flwyddyn
Tebygol (Ambr)
Yn eithaf tebygol o ddigwydd, efallai unwaith o fewn cyfnod o un flwyddyn
Posibl (Melyn)
Gall ddigwydd efallai o fewn y pum mlynedd nesaf
Annhebygol (Gwyrdd)
Gall ddigwydd yn y tymor hwy ond nid o fewn y pum mlynedd nesaf
Diffiniad
Mawr
Lle na ellir cyflawni rhwymedigaethau deddfwriaethol, rheoliadol neu gontractiol yn llawn.
Difrifol
Lle nid yw rhai o’r rhwymedigaethau deddfwriaethol, rheoliadol neu gontractiol yn cael eu cyflawni.
Sylweddol
Lle y cyflawnir y rhan fwyaf o rwymedigaethau deddfwriaethol, rheoliadol neu gontractiol.
Bach
Lle y cyflawnir y rhwymedigaethau deddfwriaethol, rheoliadol neu gontractiol i gyd yn llawn.

Effaith x Tebygolrwydd = statws risg gweithredol presennol

Cyfrifoldeb Ariannol

Datganiad ar reolaeth Fewnol 

Mae’r Gymdeithas yn dymuno cydymffurfio â Chylchlythyr RSL 02/10 ‘Rheolaethau Mewnol ac Adrodd’ Llywodraeth Cymru. Mae’r Bwrdd yn cydnabod yn y pen draw mai cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod gan y Gymdeithas system o reolaethau ar waith sydd yn briodol i’r gwahanol amgylcheddau busnes y mae’n gweithredu ynddynt. Cynllunnir y rheolaethau hyn i roi sicrwydd rhesymol mewn perthynas â: 

  • dibynadwyedd gwybodaeth ariannol a ddefnyddir o fewn y Gymdeithas neu sydd i’w gyhoeddi; 
  • cynnal cofnodion cyfrifyddu priodol; 
  • diogelu asedau yn erbyn dosbarthiad neu ddefnydd anawdurdodedig. 

Cyfrifoldeb y Bwrdd yw sefydlu a chynnal systemau rheolaeth ariannol fewnol. Gall systemau o’r fath gynnig sicrwydd rhesymol yn unig ac nid sicrwydd llwyr yn erbyn colled neu gamfynegiant ariannol materol. Mae elfennau allweddol yn cynnwys sicrhau bod: 

  • polisïau a gweithdrefnau ffurfiol ar waith, gan gynnwys dogfennu rheolau a systemau allweddol mewn perthynas â dirprwyo awdurdod, sy’n caniatáu monitro rheolaethau a chyfyngu ar ddefnydd anawdurdodedig asedau’r Gymdeithas; 
  • staff profiadol ac sydd â’r cymwysterau priodol yn cymryd cyfrifoldeb am swyddogaethau busnes pwysig. Sefydlwyd gweithdrefnau arfarnu blynyddol er mwyn cynnal safonau perfformiad; 
  • rhagamcanion a chyllidebau yn cael eu paratoi a fydd yn galluogi’r Bwrdd a rheolwyr i fonitro risgiau busnes allweddol ac amcanion ariannol a chynnydd o ran cynlluniau ariannol a osodir ar gyfer y flwyddyn ac yn y tymor canolig; caiff cyfrifon rheoli rheolaidd eu paratoi yn brydlon, gan ddarparu gwybodaeth ariannol ac arall, berthnasol, ddibynadwy a chyfredol a chaiff unrhyw amrywiadau sylweddol oddi wrth gyllidebau eu hymchwilio fel y bo’n briodol; 
  • pob menter newydd sylweddol, ymrwymiadau mawr a phrosiectau buddsoddi yn destun gweithdrefnau awdurdodi ffurfiol, drwy’r Bwrdd; 
  • y Bwrdd yn adolygu adroddiadau gan reolwyr, archwilwyr mewnol a gan yr archwilwyr allanol i gynnig sicrwydd rhesymol bod gweithdrefnau rheoli ar waith ac yn cael eu dilyn. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau rheolaidd o’r risgiau sy’n wynebu’r Gymdeithas a bodolaeth Fframwaith Sicrwydd Bwrdd dwy haen sy’n monitro risgiau i’r Gymdeithas sydd â’r sgorau uchaf a hefyd sut y cyflenwir ei chyflawniadau allweddol; 
  • gweithdrefnau ffurfiol wedi’u sefydlu ar gyfer cychwyn camau gweithredu priodol i gywiro unrhyw wendidau a nodir o’r adroddiadau uchod; 
  • yr archwilwyr mewnol ac allanol yn monitro’r system reoli. 

Mae’r Bwrdd wedi adolygu effeithiolrwydd system reoli ariannol fewnol y Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn ariannol a orffennodd ar 31 Mawrth 2022 a hyd at 29 Medi 2022. Ni chanfuwyd unrhyw wendidau yn y rheolaethau ariannol mewnol, a arweiniodd at golledion sylweddol, cynlluniau wrth gefn, nac ansicrwydd, oedd yn galw am ddatgeliad yn y datganiadau ariannol neu yn adroddiadau’r archwilwyr ar y datganiadau ariannol. 

Datganiad o gyfrifoldebau’r Bwrdd 

O dan ddeddfwriaeth cymdeithasau tai, mae’n ofynnol i’r Bwrdd Rheoli baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy’n cynnig golwg gwir a theg o gyflwr busnes y Gymdeithas ac unrhyw warged neu ddiffyg y Gymdeithas am y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hyn, mae’n ofynnol iddynt: 

  • dewis polisïau cyfrifyddu priodol a’u defnyddio’n gyson; 
  • gwneud amcangyfrifon a dyfarniadau rhesymol a darbodus; 
  • datgan a yw safonau cyfrifyddu priodol wedi’u dilyn, yn amodol ar unrhyw wahaniaethau mawr a datgelir ac yr eglurir yn y datganiadau ariannol; 
  • paratoi datganiadau ariannol ar sail busnes byw, oni bai ei bod yn amhriodol rhagdybio y bydd y Gymdeithas yn parhau mewn busnes. 

Maent hefyd yn gyfrifol am: 

  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol sy’n datgelu’n rhesymol gywir ar unrhyw adeg sefyllfa ariannol y Gymdeithas ac yn ein galluogi ni i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio ag anghenion Safon Adrodd Ariannol 102 (‘FRS102’) a SORP Tai 2014, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014, Deddf Tai ac Adfywio 2008 a Phenderfyniadau Cyffredinol (Cymru) ynghylch Gofynion Cyfrifyddu ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2015; 
  • diogelu asedau’r cwmni; 
  • cymryd camau rhesymol i atal a datgelu twyll. 

Ein Harian

Cyllid

Yr hyn sy’n eiddo inni:
Cymdeithas 2022 (£000)
Cymdeithas 2021 (£000)
Cymdeithas 2020 (£000)
Tai ac eiddo
5,221
5,077
4,976
Cyfarpar
1,718
1,634
1,641
Arian yn y banc
1,868
1,809
1,067
Arian sy’n ddyledus inni
759
703
550
Ein dyledion
-453
-616
-331
9,113
8,607
7,903
Talwyd gan:
Cymdeithas 2022 (£000)
Cymdeithas 2021 (£000)
Cymdeithas 2020 (£000)
Grantiau’r Llywodraeth
4,460
4,422
4,217
Benthyciad morgais
574
624
686
Cronfeydd wrth gefn
4,079
3,561
3,000
9,113
8,607
7,903

Crynodeb Incwm A Gwariant

Daeth ein harian o:
Cymdeithas 2022 (£000)
Cymdeithas 2021 (£000)
Cymdeithas 2020 (£000)
Rhenti a thaliadau gwasanaeth
1,438
1,397
1,132
Incwm gan wasanaethau a gefnogwyd
2,602
2,428
2,385
Grantiau refeniw grant arall
1,705
1,341
1,312
Incwm arall
333
425
597
Amorteiddiad Grant
71
60
59
6,149
5,651
5,485
Aeth ein harian i:
Cymdeithas 2022 (£000)
Cymdeithas 2021 (£000)
Cymdeithas 2020 (£000)
Gwaith cynnal a chadw arferol
134
158
116
Costau tâl gwasanaeth
186
153
135
Costau swyddfa
478
427
487
Adnoddau a chyfranogiad cleientiaid
64
83
21
Costau gweithwyr ac AD
4,221
3,574
3,729
Marchnata
56
32
18
Arall
233
301
194
Rhenti sy’n daladwy i eiddo nid ydym yn berchen arno
227
249
237
Atgyweiriadau mawr
28
106
5
Llog sy’n daladwy ar fenthyciadau
5
7
13
5,632
5,090
4,955
Cymdeithas 2022 (£000)
Cymdeithas 2021 (£000)
Cymdeithas 2020 (£000)
Symudiad o / i gronfeydd wrth gefn:
517
561
530
Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio:
10
Sut y gwariwyd pob punt o rent a grant
Cymdeithas 2022 (£)
Cymdeithas 2021 (£)
Cymdeithas 2020 (£)
Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio
1
Gwaith cynnal a chadw arferol
2
3
2
Costau tâl gwasanaeth
3
3
3
Costau swyddfa
8
8
10
Adnoddau a chyfranogiad cleientiaid
1
2
1
Costau gweithwyr ac AD
75
70
71
Marchnata
1
1
1
Arall
4
5
5
Rhenti sy’n daladwy i eiddo nid ydym yn berchen arno
4
5
4
Atgyweiriadau mawr
1
2
1
Llog sy’n daladwy ar fenthyciadau
1
1
1
100
100
100

Diolch

Aelodau Bwrdd:

John Morgan – Cadeirydd 
Amie Chapman – Trysorydd ac Is-gadeirydd 
Bill Walden-Jones 
Christian Davies (Aelod Cyfetholedig) – ymunodd yn Rhagfyr 2021 
Ffion Green 
Gareth Clubb – ymunodd ym Medi 2021 
Jack Mansfield 
James Owens – ymddiswyddodd yn Ebrill 2021 
Jamie Edwards – ymunodd ym Medi 2021 
Kate Carr 
Shone Hughes 
Stacey Anastasi 
Steve Griffiths (Aelod Cyfetholedig) – ymddiswyddodd ym Mehefin 2021 
Steve Morgan 
Vicky Allen – ymunodd ym Medi 2021 ac ymddiswyddodd ym Mawrth 2022 

Diolch Arbennig

Shirley Sansom – Llywydd Anrhydeddus 
Paul Thorburn – Llysgennad 
Ruth Dodsworth – Noddwr 

Rhagair
Y rheiny a gefnogwyd gennym
Cyfnod Clo COVID-19
Ein Gwerthoedd
Stori Jane
Uchafbwyntiau
Cydymffurfedd â Chod Llywodraethu
Yr hyn y mae ein cleientiaid..
Stori Carol
Sbectrum
Siedau Dynion Cymru
Gwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru
Gwasanaethau Cyflogadwyedd a Llesiant
Cyflogadwyedd a Llesiant Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Prosiectau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig
Wrth Ymadael â Hafan Cymru roedd
Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf
Siop Un Stop Abertawe
Ein Pobl
Cyllid
Diolch a Chydnabyddiaethau

© Copyright 2021 Hafan Cymru | Website by Accent Creative