Hugh yw Rheolwr Gyfarwyddwr HICO, cwmni ymgynghori wedi’i leoli yng Nghymru sy’n darparu ystod eang o gymorth, cyngor a help ymarferol yn bennaf i’r sector cyhoeddus a sefydliadau nid er elw gan gynnwys y GIG, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, Darparwyr Gofal a Chymorth ac elusennau (https://hico.wales). Mae’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig a hyfforddwr gweithredol ac mae ganddo hanes hir o gefnogi sefydliadau a sectorau i ddatblygu ffyrdd o weithio a strategaethau arloesol sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ar draws sbectrwm eang o bynciau o ddigartrefedd i fynediad at ofal cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.
Mae’n dod â dealltwriaeth eang o agenda polisi cyhoeddus gyda chanolbwynt ar dai a gofal cymdeithasol; profiad o helpu arweinwyr i gael ffordd drwy systemau cymhleth o safbwynt eu dinasyddion; a chysylltu pobl, sefydliadau ac agendâu ar draws gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector.