Sian Morgan
Yn Brif Weithredwr arnom er Ionawr 2016, mae Siân yn gyfrifol am drefnu cynlluniau hirdymor a byrdymor y busnes a’u rhoi ar waith ar ran y Bwrdd Rheoli, ac yn ddolen gyswllt uniongyrchol hefyd rhwng y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a gweithwyr y busnes.
Yn ystod ei gyrfa sy’n cwmpasu mwy na 40 mlynedd, mae Siân wedi gweithio i amryw o asiantaethau llywodraeth a sefydliadau sector preifat, gan arbenigo mewn tyfu a datblygu sefydliadau, meithrin partneriaethau ac annog mwy o bobl i gyfrannu.
“Rwy’n eithriadol o falch o Hafan Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau y mae angen mawr amdanynt ledled Cymru, gan gefnogi pobl sy’n wynebu sefyllfaoedd heriol gan gynnwys argyfyngau. Mae ein timau ymroddedig a theyrngar yn barod i wynebu pob her. Rydym yn gwerthfawrogi llais y bobl sy’n cael cymorth gennym a’m nod i yw parhau i wella effeithlonrwydd cyffredinol y busnes a datblygu ein gwasanaethau gan sicrhau bod pobl yn dal i fod wrth wraidd popeth a wnawn.”