Magwyd Evie mewn cartref plant, daeth yn nyrs a magodd deulu gyda’i gŵr Trevor. Roedd y pâr, a oedd yn mynd i’r eglwys yn rheolaidd ac yn mynd ar wyliau fel teulu, yn saff a sicr i bob golwg.
Ar ôl 40 mlynedd gyda’i gilydd, cwympodd Evie yn yr ardd ac anafu’i phen a achosodd dryswch ac anghofrwydd. Dyna pryd y cafodd ei hatgyfeirio i gael cymorth.
Yn ôl Evie roedd Trevor yn ei chael yn anodd ymdopi â hi ac weithiau byddai’n colli’i dymer ac yn sgrechian arni. Roedd hi’n credu bod Trevor wedi bod yn dad a darparwr da a theimlai ei bod hi’n faich arno. Roedd hi’n esgusodi ei agwedd ymosodol neu’i ddifaterwch, ac yn aml yn ei beio’i hun neu fel petai’n methu deall ei ymddygiad.
Dechreuodd Evie sôn am gam-drin hirdymor corfforol, meddyliol, emosiynol ac ariannol a fu’n digwydd ers tro byd. Weithiau, daeth y cam-drin corfforol gan un o’i merched a oedd yn “ferch ei thad”. Roedd hi wedi aros gyda’i gŵr er mwyn i’w phlant gael teulu “normal”.
Roedd Trevor wedyn yn treulio llawer o’i amser yn y garafán ar lan y môr, gan fynd â bwyd o’r tŷ a chadw rheolaeth ar yr arian i gyd. Roedd Evie yn bychanu’r gamdriniaeth gan dderbyn mai Trevor a oedd wastad wedi delio gyda’r arian gan mai ef a oedd wedi’i ennill. Roedd Trevor hefyd yn credu nad oedd modd ymddiried arian yn Evie am ei bod hi’n “anghyfrifol”. Doedd dim modd ymddiried ynddi chwaith gyda’i gar.
Yn y diwedd, symudodd Trevor i dŷ lloches gan fynd â’r holl gelfi a’r pethau gwerthfawr y credai eu bod yn eiddo iddo. Roedd Evie’n cael trafferth ariannol a darganfu fod Trevor yn hawlio budd-daliadau i bâr priod, gan ei gadael hi heb bethau sylfaenol fel bwyd a gwres.
Cafodd Evie gymorth gan Hafan Cymru i ddod yn annibynnol ac adennill rheolaeth dros ei bywyd, gan ei helpu i gael llety addas a rhyddid ariannol.
Cafodd ei hatgyfeirio gennym i’r Tîm Ymyrraeth Cymunedol ac Age Concern ac rydym yn ei gwylio’n raddol ddatblygu i fod yn berson sy’n mwynhau bywyd.