Siediau Dynion Cymru

Mae Siediau Dynion Cymru wedi creu rhwydwaith o fannau (“siediau”) ledled Cymru lle gall dynion ddod ynghyd i sgwrsio, cymryd rhan mewn gweithgareddau a gwneud ffrindiau newydd. Mae’n seiliedig ar y syniad mai’r ffordd orau i ddynion ffurfio cysylltiadau agos yw trwy weithio ar weithgareddau ar y cyd. Mae pob “sied” yn wahanol gan mai diddordebau’r aelodau sy’n ei lywio.

Er 2013, mae Siediau Dynion Cymru wedi:

  • Cefnogi mwy na 1000 o aelodau gweithredol o siediau yng Nghymru
  • Sefydlu mwy na 70 o siediau ledled Cymru.

Trwy ymgysylltu a gwrando ar yr hyn y mae ar ddynion (a’u cymunedau) ei eisiau, yr ydym wedi:

  • Helpu i greu cymuned fywiog o siediau dynion yng Nghymru lle nad oedd un o’r blaen 
  • Rhoi cyfle i nifer o ddynion ailgysylltu â’u cymuned
  • Rhoi llais i ddynion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.  

Cawsom ein hysbrydoli gan y sylw bod “dynion yn siarad ysgwydd wrth ysgwydd yn hytrach nag wyneb yn wyneb” ac aethom ati i greu mannau diogel lle gall dynion ymlacio, meithrin cysylltiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Gwelsom ganlyniadau gwych: dynion sydd wedi gwneud ffrindiau newydd a darganfod diddordebau newydd. Cawsant gymorth gennym i gael hyd i ymdeimlad o bwrpas a theimlo’n fwy bodlon eu byd.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar www.mensshedscymru.co.uk