Sbectrwm

Trwy brosiect Sbectrwm, mae Hafan Cymru yn gweithio i dorri’r cylchdro cam-drin domestig.

Nod y prosiect yw hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a pherthnasoedd iach, yn enwedig i bobl ifanc, er mwyn helpu i atal amgylcheddau camdriniol rhag datblygu. Mae hefyd yn helpu pobl adnabod sefyllfaoedd camdriniol a darparu neu dderbyn y cymorth perthnasol.

Yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), cyflwynwn sesiynau mewn ysgolion ar faterion VAWDASV, gan hoelio’r sylw ar berthnasoedd iach.

Mae Prosiect Sbectrwm yn darparu sesiynau yn yr ystafell ddosbarth i ddisgyblion 3-16 oed.

  • Helpu ysgolion i weithredu ac ymgorffori dull ysgol gyfan sy’n mynd i’r afael â VAWDASV
  • Galluogi plant, pobl ifanc a chymuned yr ysgol i adnabod ac osgoi perthnasoedd camdriniol 
  • Gwella gallu’r ysgol i reoli sefyllfaoedd ar ôl eu nodi
  • Gwella gallu’r ysgol i adnabod a chynorthwyo disgyblion sydd mewn perygl.

Mae hwn yn hyfforddiant pwysig y dylai pawb sy’n gweithio mewn ysgolion neu gyda theuluoedd ei gael.

I gael rhagor o wybodaeth neu adnoddau am ddim i ysgolion ewch i https://spectrumproject.co.uk