Mae gennym wybodaeth helaeth am ddarparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai ar hyd a lled Cymru a phrofiad helaeth o wneud hynny. I ni, mae gan bobl yr hawl i ddisgwyl byw bywydau diogel, annibynnol yn eu cymunedau. Deallwn fod pobl yn wynebu gwahanol rwystrau ar eu taith tuag at annibyniaeth a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i’w helpu i’w goresgyn.
Explore the map to see our projects across Wales
Cwm Taf Morgannwg
- Rhondda Cynon Taff – Tai â Chefnogaeth i Deuluoedd sy’n Agored i Niwed
- Rhondda Cynon Taff – Llety â Chefnogaeth a Gwasgariad Pobl Ifanc
Gwent
- Torfaen – Cymorth fel y bo’r Angen ar Gam-drin Domestig Gwryw
- Torfaen – Tai â Chefnogaeth i Deuluoedd sy’n Agored i Niwed
Canol a Gorllewin
- Sir Benfro – Tai Diogel Cam-drin Domestig 2il Gam
- Sir Benfro – Lloches Cam-drin Domestig
- Sir Gaerfyrddin – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig
- Sir Benfro – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig
- Sir Gaerfyrddin – IDVA
- Powys – IDVA
- Sir Benfro – Siop Un Stop
- Sir Gaerfyrddin – Prosiect Merched Ifanc
Gogledd Orllewin
- Sir y Fflint – Cynllun Tai â Chefnogaeth Gwasgarol
- Wrecsam – Lloches Lloches Cam-drin Domestig
- Wrecsam – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig Gwasgaredig
- Wrecsam – Cam-drin Domestig Cefnogaeth arnofio
- Sir y Fflint – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig
- Wrecsam – Prosiect person ifanc
Gogledd Orllewin
- Conwy – Cynllun Tai â Chefnogaeth Gwasgarol
- Ynys Môn – Cynllun Tai â Chefnogaeth Gwasgarol
- Ynys Môn – Prosiect Cymorth fel y bo’r Angen
- Conwy – Prosiect Merched Ifanc
- Gwynedd – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig
- Conwy – Cefnogaeth fel y bo’r Angen
- Conwy – Prosiect person ifanc
Bae Abertawe
- Abertawe – Prosiect Lles Plant a Phobl Ifanc
- Abertawe – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig
- Castell-nedd Port Talbot – Cymorth Cartrefi Cyntaf i Deuluoedd
- Castell-nedd Port Talbot – Cefnogaeth fel y bo’r Angen
- Abertawe – Cefnogaeth fel y bo’r Angen
- Castell-nedd Port Talbot – Tai â Chefnogaeth Cam-drin Domestig
- Castell-nedd Port Talbot – Prosiect Trais yn y Cartref i ddynion
- Abertawe – Siop Un Stop
Cymorth Tai
“Cefais gymorth mawr gan Hafan Cymru i ymgartrefu yn fy nghartref fy hun a chefnogaeth bob cam o’r ffordd. Roeddwn mewn lle tywyll, ond gweithiais trwy’r iseldir a theimlaf bellach fod modd i mi gamu ymlaen yn hyderus. Gwn fod rhywun yno os bydd angen cymorth arnaf.”
Mae ein cymorth tai yn ddarpariaeth hyblyg ac mae’n ymateb i anghenion pob unigolyn a’i amgylchiadau newidiol. Rydym yn llunio pecynnau cymorth penodol ar gyfer yr unigolyn sy’n helpu ein tenantiaid i ddatblygu’r sgiliau a fydd yn eu galluogi i fyw yn annibynnol a chyrraedd eu llawn botensial. Defnyddiwn ein dealltwriaeth o’r heriau meddyliol ac emosiynol y gall pobl eu hwynebu i’w helpu a’u hannog i wneud newidiadau cadarnhaol er mwyn byw eu bywyd gorau. Mae hynny’n cynnwys helpu pobl i ddatblygu rhwydweithiau cymorth a theimlo’n rhan o’u cymunedau lleol. Gweithiwn gyda gwasanaethau statudol a gwirfoddol i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n tenantiaid a’u teuluoedd ac i sicrhau na fydd neb na dim yn cael ei golli.
Cymorth Hyblyg
“Roeddwn i’n teimlo nad oedd gennyf unman i droi. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus o ran gwneud penderfyniadau ac rwy’n falch fy mod i wedi dod mor bell. Rwy’n byw bywyd cwbl annibynnol nawr.”
Mae gennym dimau o weithwyr cymorth profiadol sydd wedi’u hyfforddi i helpu pobl agored i niwed mewn pob math o lety a phob math o denantiaeth. Mae’r cymorth a ddarparwn yn ystyried anghenion yr unigolyn ac yn edrych ar y darlun llawn, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. Rydym yn atal digartrefedd trwy amddiffyn pobl sydd â phrofiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu gam-drin domestig. Gofalwn fod pobl yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau cyfreithiol. Gweithiwn i ddatrys problemau tai mor fuan â phosibl er mwyn i bobl allu gofalu am eu cartrefi, teimlo’n fwy hyderus, mwynhau gwell lles, a gweithio tuag at annibyniaeth.
CYNGHORWYR ANNIBYNNOL AR DRAIS DOMESTIG (IDVA)
“Rwy’n mwynhau bywyd bellach ac rwy’n teimlo’n gryfach nag erioed i wynebu beth bynnag a ddaw. Mae pob dydd yn fendith ac mae’r arweiniad a gefais wedi bod yn wirioneddol wych.”
Mae Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) Hafan Cymru yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth diogelwch arbenigol i ddioddefwyr trais domestig risg. Mae ein tîm o gynghorwyr yn gweithio gyda chleientiaid i sicrhau diogelwch a chymorth parhaus i’r holl ddioddefwyr a’u plant. Addasir y cymorth ar gyfer anghenion penodol pob unigolyn er mwyn creu cynllun bywyd y mae modd ei gyflawni ac sy’n rhoi ystyriaeth i bob ffactor. Mae’n helpu dioddefwyr i greu dyfodol diogel iddynt hwy a’u plant – dyfodol lle gallant fyw heb niwed na chamdriniaeth.
Dywed ein dioddefwyr fod ein Cynghorwyr yn achub bywydau, yn helpu i roi llais a lle diogel iddynt, a mynediad at gymorth ariannol os bydd angen. Mae ein Cynghorwyr yn atal digartrefedd ac yn darparu cymorth hanfodol i dywys dioddefwr trwy gyfnod mwyaf trawmatig eu bywyd. Trwy ein gwaith gydag asiantaethau partner allweddol, rydym wedi helpu i weddnewid y cymorth a ddarperir i ddioddefwyr trais domestig risg uchel. Mae ein gwybodaeth am y system cyfiawnder troseddol a’n sgiliau arbenigol ym maes trais domestig yn allweddol bwysig o ran cynnal cyfraddau ymateb yr heddlu a chadw dioddefwyr yn ddiogel.
O ganlyniad i’n gwaith parhaus gyda dioddefwyr rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, cefnogwyd 1197 o ddioddefwyr. Mae 98% o’n dioddefwyr yn fodlon ar y gwasanaeth a ddarparwyd gennym.
Canolfannau
Mae Hafan Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwahanol ddarparwyr gwasanaeth, yn tynnu’r cymorth ynghyd mewn un man ac yn ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at yr wybodaeth a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt.
Siop Un Stop Sir Benfro (Yn dod yn fuan)
Pwy yr ydym yn eu cefnogi?
Rydym yn cefnogi llawer o bobl wahanol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Plant a phobl ifanc
- Teuluoedd – menywod, dynion, plant
- LGBTQ+
- Pobl hŷn
- BAME.