I ni, mae hyfforddiant yn bwysig ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Trwy sicrhau bod yr hyfforddiant perthnasol diweddaraf ar gael i bawb, bydd modd i fusnesau ddarparu’r cymorth iawn ar yr adeg iawn, a bodloni anghenion eu cwsmeriaid. Mae ein cyrsiau hyfforddiant pwrpasol yn hyrwyddo datblygiad y gweithlu, yn gwella llesiant staff ac yn cefnogi’r nodau cysylltiedig â phobl sydd gan sefydliadau.
Pam Hafan Cymru?
Mae gan ein tîm hyfforddi arbenigol fwy na 15 mlynedd o brofiad o ddatblygu a chyflwyno cyrsiau hyfforddiant o ansawdd uchel ledled Cymru.
Rydym yn arbenigwyr cydnabyddedig ym meysydd diogelu, iechyd meddwl, a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae gan ein hyfforddwyr arbenigedd a phrofiad helaeth o weithio gyda goroeswyr trais a chamdriniaeth a chefnogi’r gweithwyr proffesiynol a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Byddwn yn datblygu atebion hyfforddi pwrpasol sy’n bodloni eich anghenion, gan ddefnyddio gwaith ymchwil seiliedig ar dystiolaeth a phopeth yr ydym wedi’i ddysgu ar hyd blynyddoedd lawer o ymarfer.
Bydd ein cyrsiau yn eich paratoi chi a’ch sefydliad i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn nifer o bynciau arbenigol, gan gynnwys y canlynol, ond heb ei gyfyngu i hynny: gwella cyflogadwyedd a sgiliau bywyd, deall VAWDASV, diogelu, iechyd meddwl a llesiant.
Mae adnabod camdriniaeth a chymryd camau i ddiogelu unigolion yn fater i bawb – dewch i siarad â ni am y canlynol:
- Datblygu polisïau
- Arferion gwaith
- Dadansoddi a datrys anghenion hyfforddiant
- Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol
- Dylunio a datblygu atebion hyfforddi a fydd yn bodloni anghenion y sefydliad.
Gall y costau amrywio – cysylltwch â ni i gael dyfynbris personol.
Sut y darperir yr hyfforddiant?
Bydd ein hyfforddwyr arbenigol yn cynnig hyfforddiant hybrid i fodloni anghenion eich sefydliad. Rydym yn cynnig dull gweithredu cyfunol, sy’n cynnwys:
- datblygiad unigol
- hyfforddiant grŵp
- hyfforddiant wyneb yn wyneb
- hyfforddiant ar-lein a gweminarau
- hyfforddiant wedi’i achredu.
Cysylltwch â [email protected] i drafod eich anghenion o ran hyfforddiant a sut y gallwn eich cynorthwyo i ddatblygu ateb sy’n addas i chi.