Mae ein prosiectau cymorth cyflogadwyedd yn newid nos i ddydd
Mae gan HafanCymru hanes neilltuol o helpu pobl yng Nghymru i gael swyddi. Mae gan ein cynghorwyr cymorth cyflogaeth brofiad helaeth o helpu unigolion i adnabod rhwystrau, archwilio strategaethau ymdopi a chamu tuag at annibyniaeth.
Gweithiwn i sicrhau bod mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg yn cael ei hyrwyddo a’i gydnabod fel llwybr at fywyd sy’n fwy llawn ac annibynnol. Mae hyn yn gymorth o ran adfywio cymunedau ehangach – sy’n rhan arall allweddol o’n cenhadaeth.
Mae’r bobl sy’n cael cymorth gennym yn wynebu sawl rhwystr, gan gynnwys diffyg hunan-barch, problemau ariannol a gwahaniaethu gan gyflogwyr a’r gymdeithas ehangach. Byddwn ni’n eu helpu i gael mynediad at gyfleoedd sy’n addas i’w hamgylchiadau personol, gan roi’r modd iddynt ddatblygu, goresgyn rhwystrau a symud tuag at fyw’n annibynnol.
Cysylltwch â ni i drafod ateb pwrpasol ar gyfer eich sefydliad chi.