Hyfforddiant i Weithwyr Proffesiynol
‘Sicrhau effaith gadarnhaol’
Mae gan ein hyfforddwyr, sy’n arbenigwyr mewn VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol), diogelu, iechyd meddwl a lles, ddiddordeb angerddol mewn sicrhau effaith gadarnhaol.
Bydd ein cyrsiau hyfforddiant yn cynorthwyo unigolion a sefydliadau i ddeall mwy a datblygu eu harferion gwaith, gan wella bywydau’r unigolion y maent yn gweithio gyda nhw yn y pen draw.
Cynlluniwyd ein hyfforddiant i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac arferion gwaith sy’n gwella datblygiad proffesiynol parhaus.
Available training
;
Mae atebion hyfforddi eraill yn cynnwys Ffiniau Proffesiynol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Arwain a Rheoli.
Available training
;
Bydd ein cyrsiau VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yn fodd i’ch busnes gynorthwyo cwsmeriaid, cyd-weithwyr ac unigolion eraill i adnabod arwyddion camdriniaeth a’u grymuso i gysylltu â gwasanaethau arbenigol.
Gofyn a Gweithredu; a’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol (FfHC)
Mae ein tîm yn hyfforddwyr cymwysedig Gofyn a Gweithredu ar gyfer Grwpiau 2 a 3. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda thimau VAWDASV ledled Cymru i gyflwyno hyfforddiant Gofyn a Gweithredu Grwpiau 2 a 3 Llywodraeth Cymru i awdurdodau perthnasol.
Rydym yn un o ganolfannau hyfforddi cymeradwy Agored Cymru sy’n cynnig maes llafur arbenigol Grŵp 4 (link to Agored units). Cydweithiwn ag elusen Safelives i gydgyflwyno cymwysterau FfHC Llywodraeth Cymru ar gyfer Grwpiau 4 a 5.
Available training
;
Datblygwyd ein cyrsiau hyfforddi Diogelu a Llesiant i gynorthwyo pobl sydd mewn perygl o gael eu niweidio neu eu cam-drin, a’r gweithwyr proffesiynol a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw.
Mae diogelu yn fater i bawb ac yn elfen hollbwysig ym mhob maes gwaith. Mae ein cyrsiau hyfforddi yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth a dealltwriaeth o sut i adnabod arwyddion camdriniaeth a sut i gynorthwyo rhywun sy’n wynebu risg. Mae ein hystod gynhwysfawr o gyrsiau llesiant yn cynorthwyo unigolion i adnabod rhwystrau personol ac archwilio ffyrdd o’u goresgyn.
Cynigwn ystod o atebion hyfforddi ym maes diogelu a llesiant, gan gynnwys:
- Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl – Oedolion ac Ieuenctid
- Diogelu
- Llesiant a Gwytnwch
- Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad.