Diogelu Cymru Gyfan

Hyfforddiant diweddariadau diwrnod llawn neu hanner diwrnod

Mae’r cwrs diwrnod llawn, cynhwysfawr hwn yn seiliedig ar y Fframwaith Gofal Cymdeithasol a ddatblygwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch Sefydlu ym maes Diogelu. Mae’r cwrs hwn yn darparu dull gweithredu safonol mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth Diogelu Oedolion a Phlant ac mae’n cynnwys y gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan newydd.

Deilliannau Dysgu

  • Gwybod eich rôl eich hun mewn perthynas â diogelu oedolion a phlant a phobl ifanc rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Deall sut y caiff unigolion eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Gwybod sut i adnabod gwahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Gwybod am y newidiadau diweddar ym maes diogelu o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

“Roedd y cynnwys i gyd yn ddefnyddiol iawn. Mae gwybodaeth gennyf yn sgil hyfforddiant arall a phrofiadau proffesiynol, ond roedd y cwrs wedi gloywi hyn i gyd a chyflwyno rhagor o wybodaeth nad oeddwn i’n ymwybodol ohoni. Byddaf yn defnyddio’r ap o hyn ymlaen ac yn bwydo’n ôl i’r tîm. Diolch.”