Cwrs hanner diwrnod
Trais yn erbyn rhieni a cham-drin rhieni gan blant a’r glasoed (CAPVA) yw’r math o drais teuluol mwyaf cudd, sy’n achosi’r stigma a’r camddealltwriaethau mwyaf. Mae’n batrwm o weithredoedd ymosodol, camdriniol a threisgar gan blant yn erbyn eu rhieni sy’n digwydd dros gyfnod estynedig.
Yn ôl ymarferwyr rheng flaen mae rhy ychydig o achosion CAPVA yn cael eu cofnodi o hyd, ond mae’n prysur gael ei gydnabod fel math o drais domestig sy’n effeithio’n helaeth ar deuluoedd.
Nodau’r Cwrs
- Rhoi trosolwg o CAPVA
- Galluogi’r cynrychiolwyr i adnabod arwyddion a symptomau CAPVA
- Archwilio diffiniadau, acronymau a chwalu mythau
- Ystyried yr effaith ar bobl ifanc ac oedolion
- Archwilio’r ffactorau risg ehangach.
LearninDeilliannau Dysgu
- Deall pa mor gyffredin yw CAPVA
- Adnabod yr emosiynau a’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â CAPVA
- Deall yr effaith
- Amlygu cysylltiadau â mathau eraill o gamdriniaeth
- Deall materion hysbysu a datgelu
- Gwybod ymhle y gellir cael adnoddau a chymorth.