Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CSE)

Cwrs hanner diwrnod

Nodau’r Cwrs

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau cam-fanteisio’n rhywiol ar blant
  • Cynyddu gwybodaeth am baratoi plant i bwrpas rhyw, secstio, masnachu pobl, caethwasiaeth fodern a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant a dealltwriaeth ohonynt.

Deilliannau Dysgu

  • Gallu gweld pan fydd camfanteisio’n rhywiol ar blant yn digwydd a phan fydd person ifanc yn wynebu risg
  • Gallu esbonio rôl a chyfrifoldeb yr unigolyn yn unol â’r Canllawiau Cymru Gyfan
  • Gallu gweld y cysylltiad rhwng cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a masnachu pobl
  • Deall sut i asesu plentyn neu berson ifanc sy’n wynebu risg gan ddefnyddio offeryn Fframwaith Asesu Risg SERAF.

Byddaf yn fwy ymwybodol bod plant yn cael eu cam-drin a’u paratoi i bwrpas rhyw – yn enwedig gyda bod technoleg yn datblygu mor gyflym. Byddaf yn defnyddio’r hyfforddiant hwn i sicrhau fy mod i’n gallu canfod y ffactorau ar gyfer plant sy’n cael eu paratoi i bwrpas rhyw a gwybod sut i ymdrin â’r sefyllfa.