Cam-drin Domestig a’r Effaith ar Blant a Phobl Ifanc

HCwrs hanner diwrnod neu gwrs diwrnod llawn

*Opsiwn ar gyfer achrediad FfHC trwy Agored Cymru

Bydd y cwrs hwn yn meithrin eich dealltwriaeth o gymhlethdodau cam-drin domestig a’r cylchdro cam-drin. Bydd yn cynyddu gwybodaeth am y modd y gall perthnasoedd camdriniol effeithio ar blant, a rolau ac ymddygiad plant. Byddwn yn datblygu eich dealltwriaeth o gam-lywio a chydgynllwynio mewn cam-drin domestig ac effaith hynny ar blant.

Nodau’r Cwrs

  • Trafod y cysylltiad rhwng trais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol, a’r risg y mae plant yn ei hwynebu
  • Disgrifio sut i ystyried risgiau o safbwynt y dioddefwr a’r troseddwr ac o safbwynt profiad y plant, a chymryd camau priodol i leihau hyd yr eithaf ar y risgiau hyn
  • Ymdrin â sut y mae ymateb i’r trawma sy’n deillio o brofiadau cam-drin domestig mewn plentyndod
  • Sicrhau bod y cynrychiolwyr yn gwybod pa adnoddau sydd ar gael i gynorthwyo plant sydd â phrofiad o gam-drin domestig.

LearninAmcanion Dysgu

  • Gwybodaeth am wahanol fathau o VAWDASV a’i ddiffiniad a dealltwriaeth ohonynt
  • Ymwybyddiaeth o ymddygiadau camdriniol
  • Deall effaith VAWDASV ar blant a phobl ifanc
  • Gwybod sut i ymdrin â datgeliadau/mynegi pryderon
  • Deall effaith y pandemig ar gam-drin domestig
  • Gwybod am yr offer sydd ar gael i gynorthwyo plant a phobl ifanc
  • Gwybod am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i unigolion a sefydliadau.

“Roedd yr hyfforddwr yn wych, gyda dealltwriaeth a gwybodaeth lawn. Ac yn un da am esbonio. Mwynheais y cwrs yn fawr iawn.”