Ymwybyddiaeth o Drais Domestig

Cwrs hanner diwrnod

Nodau’r Cwrs

  • Darparu dealltwriaeth gyffredinol o gam-drin domestig
  • Galluogi’r cynrychiolwyr i adnabod arwyddion a symptomau camdriniaeth
  • Darparu sgiliau arferion gorau o ran cynorthwyo unigolion y mae camdriniaeth yn effeithio arnynt.

Deilliannau Dysgu

  • Gallu diffinio cam-drin domestig
  • Gallu esbonio effaith cam-drin domestig
  • Deall arfer da o ran cynorthwyo unigolion y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

Mae ein tîm o staff wedi sôn, nid yn unig am ddyfnder yr wybodaeth a’r profiad y mae Hafan Cymru wedi’u hamlygu yn ystod y sesiynau hyfforddi, ond hefyd eu hempathi, ynghylch yr hyn a all beri llawer o ofid a hefyd fod yn bersonol iawn weithiau.

Cartrefi Melin