Cwrs hanner diwrnod
*Opsiwn ar gyfer achrediad FfHC trwy Agored Cymru
Nodau’r Cwrs
- Cyflwyno/cynyddu gwybodaeth am anffurfio organau cenhedlu benywod
- Amlygu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anffurfio organau cenhedlu benywod yn y Deyrnas Unedig a dealltwriaeth ohoni
- Ystyried yr effeithiau emosiynol a chorfforol ar y rhai sy’n wynebu risg
- Galluogi pobl i adnabod arwyddion anffurfio organau cenhedlu benywod
- Darparu gwybodaeth am ble mae cael cymorth ar gyfer unigolion
- Meithrin hyder o ran ymateb i ddatgeliadau.
Deilliannau Dysgu
- Develop a basic
- Datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r term anffurfio organau cenhedlu benywod
- Ymgyfarwyddo â’r dogfennau canllawiau ynghylch anffurfio organau cenhedlu benywod yn y Deyrnas Unedig
- Deall y ddeddfwriaeth ynghylch anffurfio organau cenhedlu benywod yn y Deyrnas Unedig
- Dod i ddeall sut yr effeithir ar rywun sy’n destun anffurfio organau cenhedlu benywod a sut i adnabod yr arwyddion
- Deall lle mae mynd i gael cymorth o ran anffurfio organau cenhedlu benywod a sut mae rhoi gwybod am achos.
“Roedd hi’n amlwg bod yr hyfforddwyr yn deall y mater yn dda … ac roedd hynny’n gwneud yr hyfforddiant yn fwy gafaelgar.”