Cwrs hanner diwrnod
*Opsiwn ar gyfer achrediad FfHC trwy Agored Cymru
Nodau’r Cwrs
- Deall y term ‘priodas dan orfod’
- Gallu adnabod yr arwyddion a sut y gallai effeithio ar rywun
- Darparu gwybodaeth am sut y mae asesu a rheoli risg
- Rhannu gwybodaeth am brosesau fforensig a beth sy’n digwydd ar ôl datgeliad
- Archwilio’r fframwaith moesegol pan ddatgelir achos neu achos posibl
- Darparu gwybodaeth am y ddeddfwriaeth
- Darparu gwybodaeth am ble mae cyfeirio unigolion i gael cymorth.
Deilliannau Dysgu
- Deall y gwahaniaeth rhwng priodas dan orfod a phriodas wedi’i threfnu
- Gwybod sut y mae adnabod yr arwyddion a rheoli risg
- Dod i ddeall prosesau fforensig a’r ddeddfwriaeth
- Deall y fframwaith moesegol pan ddatgelir achos neu achos posibl
- Gwybod am y sefydliadau cymorth a ble mae cyfeirio pobl i gael cymorth.
“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor gyffredin y mae hyn yn dal i fod yn y Deyrnas Unedig! Byddaf yn bendant yn rhoi mwy o ystyriaeth iddo yn fy rôl ar ôl yr hyfforddiant.”