Honour Based Abuse

Cwrs hanner diwrnod

*Opsiwn ar gyfer achrediad FfHC trwy Agored Cymru

Nodau’r Cwrs

  • Deall cam-drin ar sail anrhydedd
  • Rhannu gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisi cam-drin ar sail anrhydedd 
  • Deall sut mae asesu a rheoli risg pan ddatgelir cam-drin ar sail anrhydedd neu achos posibl ohono
  • Darparu gwybodaeth am y prosesau fforensig yn dilyn datgeliad 
  • Archwilio’r fframwaith moesegol a ddefnyddir pan ddatgelir cam-drin ar sail anrhydedd neu achos posibl ohono 
  • Gwybod sut i gael cymorth ar gyfer y rhai y mae cam-drin ar sail anrhydedd yn effeithio arnynt.

Deilliannau Dysgu

  • Deall y term “cam-drin ar sail anrhydedd”
  • Deall deddfwriaeth a pholisi cam-drin ar sail anrhydedd 
  • Deall sut y mae asesu a rheoli risg 
  • Teimlo’n hyderus o ran deall prosesau yn dilyn datgelu achos neu achos posibl yn unol â’r fframwaith moesegol 
  • Deall y cymorth sydd ar gael a gallu cael mynediad iddo.

“Nawr, rwy wedi gweld enghreifftiau o sut y mae cam-drin ar sail anrhydedd yn gallu cael ei guddio a sut y mae’n gallu dirywio’n gyflym iawn gan roi’r unigolyn agored i niwed mewn perygl mawr os na fydd camau ymyrryd yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.”