Rheoli Bwlio ac Aflonyddu yn y Gweithle

Cwrs hanner diwrnod

Ar y cwrs hwn bydd rheolwyr llinell yn dysgu beth yw bwlio ac aflonyddu; sut y mae’n effeithio ar unigolion, ar dimau ac ar y busnes; a’r fframwaith cyfreithiol yng nghyswllt bwlio ac aflonyddu yn y gwaith. Mae hefyd yn trafod sut i roi gwybod am faterion yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad.