Bydd y cwrs hwn ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda chleientiaid agored i niwed, yn datblygu eich gwybodaeth am y risgiau sydd ynghlwm wrth gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth. Byddwch yn dysgu sut i’ch cadw eich hun yn ddiogel a sut i ddefnyddio rhai o’r offer asesu sydd ar gael. Mae’r hyfforddiant hwn hefyd yn rhoi sylw i sefydlu a chynnal dull gweithredu proffesiynol gyda defnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau allanol.