Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Cwrs deuddydd

Cyflwyno Hyfforddiant Trwyddedig

Cwrs deuddydd (6 awr y dydd) – £175 sy’n cynnwys copi o’r Llawlyfr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl trwyddedig i’r cynrychiolydd.

Nodau’r Cwrs

  • Rhoi tystysgrif achrededig Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru i’r cynrychiolwyr.
  • Datblygu gwybodaeth a deall sut i ganfod arwyddion bod angen cymorth ar unigolyn a sut i fynd o’i chwmpas hi.
  • Paratoi’r cynrychiolwyr i amddiffyn eu hiechyd meddwl eu hunain ac iechyd meddwl pobl eraill.

Deilliannau Dysgu

  • Adnabod arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl cyffredin
  • Diogelu bywyd pan fydd unigolyn yn berygl posibl iddo’i hun neu i eraill
  • Darparu cymorth er mwyn atal problem iechyd meddwl rhag datblygu i fod yn fater mwy difrifol
  • Hyrwyddo adennill iechyd meddwl da
  • Darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at gymorth.

“Mae hyn mor bwysig, nid yn unig yn y gwaith ond mewn bywyd pob dydd. Roedd yn agoriad llygad o ran beth i chwilio amdano a sut i helpu pobl a allai fod mewn trafferthion. Mae’n rhywbeth sy’n effeithio arnom i gyd, roedd yr hyfforddwr yn hyfryd ac wedi sicrhau ein bod ni i gyd yn iawn trwy’r cyfan. Diolch.”

Hefyd ar gael – Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Ifanc (ar gael ar-lein yn unig).