Sgiliau Trin Arian

Cwrs hanner diwrnod

Cwrs hanner diwrnod yw hwn ar gyfer staff rheng flaen sy’n gweithio gyda chleientiaid agored i niwed sy’n wynebu problemau ariannol. Mae’n darparu’r offer sydd eu hangen ar eich tîm i gynorthwyo cleientiaid i reoli dyledion, cyllidebu, cynilo ac adnabod biliau allweddol y cartref mewn modd mwy effeithlon. Mae’n dysgu’r staff i helpu cleientiaid gydag unrhyw faterion rheoli arian y gallent fod yn eu hwynebu ers cyflwyno Credyd Cynhwysol.