Ffiniau Personol a Phroffesiynol

Cwrs hanner diwrnod

Nodau’r Cwrs

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o ystyr ffiniau proffesiynol 
  • Galluogi’r cynrychiolwyr i ddeall pwy sydd bob ochr i’r ffiniau proffesiynol a pham y mae ffiniau’n bwysig 
  • Helpu’r cynrychiolwyr i ddatblygu ffyrdd o sefydlu a chynnal ffiniau proffesiynol 
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o weithdrefnau y dylid eu dilyn os bydd ffiniau’n cael eu croesi a lle i geisio cyngor.

Deilliannau Dysgu

  • Deall pwrpas ffiniau proffesiynol
  • Deall pwy sydd bob ochr i ffiniau proffesiynol
  • Deall beth yw’r ffiniau, a sut i’w pennu
  • Gwybod beth i’w wneud mewn achosion o groesi ffiniau.

Hyfforddiant gwych. Roedd yr ymarferion yn berthnasol iawn i’r sefydliad ac ar y lefel gywir, gan alluogi digon o gyfranogi. Roedd gan yr hyfforddwr safon uchel iawn o wybodaeth ac roedd hi’n glir bod y cwrs wedi cael ei baratoi a’i ddatblygu’n dda i fodloni anghenion y dysgwyr. Roedd y cymorth technegol a gynigiwyd yn ardderchog.