Cwrs hanner diwrnod
Ar draws y byd, mae rhywun yn marw trwy hunanladdiad bob 40 eiliad sy’n golygu bod 800,000 o bobl bob blwyddyn yn marw trwy hunanladdiad.
Beth sy’n ysgogi rhywun i ladd ei hun? Ni ŵyr neb yn iawn – ni fydd arbenigwyr byth yn cael cyfle i siarad â phobl sydd wedi marw trwy hunanladdiad. Dim ond y rhai sy’n meddwl am hunanladdiad neu sy’n ei oroesi y mae modd siarad â nhw ac mae hwnnw, oherwydd ei natur, yn grŵp gwahanol.
Mae hunanladdiad yn ganlyniad cydadwaith rhwng nifer o ffactorau gwahanol ac ni ddylid ei briodoli i un achos sengl. Oherwydd ei gymhlethdod, mae gofyn cynnwys nifer o wahanol sectorau, asiantaethau a gwasanaethau er mwyn atal hunanladdiad.
Nodau’r Cwrs
- Archwilio mythau a syniadau cyffredin ynghylch hunanladdiad
- Meithrin dealltwriaeth o’r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad
- Galluogi’r cynrychiolwyr i adnabod arwyddion bwriadau hunanladdol mewn unigolyn.
Amcanion Dysgu
- Deall y ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad
- Deall y mythau ynghylch hunanladdiad
- Adnabod arwyddion bwriad hunanladdol
- Deall strategaethau atal hunanladdiad a sut i’w defnyddio.