Deall Cam-drin Domestig

(gan gynnwys Ymddygiad sy’n Rheoli ac yn Gorfodi)

Cwrs diwrnod llawn

*Opsiwn ar gyfer achrediad FfHC trwy Agored Cymru

Nodau’r Cwrs

  • Darparu gwybodaeth am ymddygiad sy’n rheoli ac yn gorfodi a dealltwriaeth ohono
  • Rhoi trosolwg o’r drosedd fel rhan o Ddeddf Troseddu Difrifol Rhagfyr 2015
  • Disgrifio ystyr rheolaeth drwy orfodaeth a’i swyddogaeth mewn perthynas gamdriniol
  • Edrych ar effeithiau ymddygiad sy’n rheoli ac yn gorfodi
  • Darparu gwybodaeth am y mathau o gam-drin domestig
  • Paratoi’r cynrychiolwyr i gynorthwyo dioddefwyr/goroeswyr a’u hatgyfeirio i wasanaethau arbenigol.

Deilliannau Dysgu

  • Gwell ymwybyddiaeth o effaith cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth ar yr unigolyn
  • Deall y ddeddfwriaeth newydd
  • Gwella ymateb asiantaethau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi profi ymddygiad sy’n rheoli ac yn gorfodi
  • Mwy o ymwybyddiaeth o sut y gall asiantaethau gynnig cymorth i ddatblygu achos sy’n ymwneud ag ymddygiad sy’n rheoli ac yn gorfodi.

“Diwrnod defnyddiol iawn, rhannwyd llawer o wybodaeth a phrofiadau bywyd go iawn. Bydd yr hyfforddiant hwn yn fy helpu i gynnal sgyrsiau priodol gyda’r teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw.”