Disgrifiad

A ydych chi am wneud gwahaniaeth i fywyd person arall? Mae gennym ni gyfle cyffroes ar gyfer person tosturiol, llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm yn Wrecsam fel Gweithwyr Cymorth.

Darllenwch ymhellach am fwy o wybodaeth am y gwaith rhagorol y mae ein tîm yn ei wneud ac i wneud cais i ymuno â’n tîm anhygoel…

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • I sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu hasesu’n rheolaidd, gan gadw at gynllun cymorth personol sy’n canolbwyntio ar dasgau yn unol â Chefnogi Pobl, gofynion rheoliadol ac amserlenni, gan alluogi unigolion i ddysgu a chyflawni eu potensial
  • Ymgymryd â chynllunio diogelwch, er enghraifft o fewn amgylchedd lloches / tŷ diogel cam-drin domestig, pan fo hynny’n briodol.
  • I gynnal asesiadau risg ar bob cleient a chytuno ar gynllun rheoli risg.
  • I ddefnyddio arfer da wrth reoli risg a gweithio ar eich pen eich hun.
  • I arwyddo, cysylltu ag a hwyluso mynediad defnyddwyr y gwasanaeth i wasanaethau (Meddygol, cyfreithiol ac ati).
  • I ddefnyddio ffyrdd creadigol o sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu cefnogi yn y fath fodd fel bod eu potensial am annibyniaeth yn cael ei gynyddu i’r eithaf a’u bod yn cael eu galluogi i gyflawni canlyniadau, sy’n briodol i’w hanghenion a’u dymuniadau.
  • I roi adborth am farn defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn galluogi datblygu a gwella gwasanaethau Hafan Cymru

 

Ymgeisiwch Naw