Mae Hafan Cymru yn ystyried bod yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yr un mor bwysig â’i gilydd ac yn credu bod gan bawb sy’n cysylltu â’r sefydliad yr hawl i wneud hynny yn y Gymraeg neu Saesneg, pa un bynnag yw eu hiaith ddewisol.

Mae’r polisi hwn yn gweithredu ar y cyd â pholisïau Cyfle Cyfartal, Disgyblu a Chwynion a Recriwtio a Dewis Hafan Cymru.

Deunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebol

Caiff digwyddiadau fydd yn cael eu trefnu gan Hafan Cymru eu hysbysebu a’u hyrwyddo yn ddwyieithog. Bydd bwciadau ar gyfer digwyddiadau yn Neuadd y Dref (Guildhall) yn cael eu hysbysebu a’u hyrwyddo yn iaith y deunydd fydd wedi ei ddarparu gan y person sy’n dymuno llogi.

Er y bydd Hafan Cymru yn ceisio sicrhau bod yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu hargraffu yn rhai dwyieithog, byddwn yn ystyried effaith hyn ar yr amgylchedd ac mae’n bosib y byddwn yn gwneud penderfyniadau p’un ai a ddylid darparu deunydd ym mha bynnag iaith sy’n addas. Yn yr achos hwn, byddwn yn gofyn i bobl nodi ym mha iaith hoffen nhw dderbyn deunydd.

ABydd pob swydd wag yn cael ei hysbysebu yn ddwyieithog

Pan fydd Hafan Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd yn gweithredu yn unol â’i pholisi iaith Gymraeg ei hun a bydd yn annog ei phartneriaid i weithio’n ddwyieithog.

Hysbysiadau i’r wasg

Bydd hysbysiadau Hafan Cymru i’r wasg a’i gollyngiadau i’r cyfryngau yn cael eu rhyddhau yn unol ag iaith y cyhoeddiad.

Gohebiaeth ysgrifenedig

Mae Hafan Cymru yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn yn cyflwyno’r ateb yn iaith yr ohebiaeth wreiddiol. Pan fydd yr ohebiaeth yn ddwyieithog bydd yr ateb yn cael ei gyflwyno yn newis iaith yr aelod staff.

Gall gohebiaeth ag unigolion neu grwpiau penodol fod yn ddwyieithog neu yn yr iaith y mae Hafan Cymru yn credu sy’n ddewis iaith y derbynnydd.

Ni fydd gohebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at unrhyw oedi

Cyfathrebu ar lafar

Bydd ymwelwyr neu unrhyw un sy’n galw gyda’r sefydliad yn cael ei gyfarch/chyfarch yn newis iaith yr aelod staff ond rydym yn croesawu ymholiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae gennym weithdrefnau yn eu lle i sicrhau bod galwadau sy’n cael eu derbyn yn Gymraeg yn cael eu trin yn effeithiol yn Gymraeg.

Caiff y staff eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg a bydd Hafan Cymru yn annog ac yn cefnogi staff sy’n dymuno gwella eu sgiliau iaith.

Hunaniaeth gorfforaethol

Mae Hafan Cymru wedi ymrwymo i gynnal ei delwedd gyhoeddus a’i hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys ei chyfeiriad, logo, hunaniaeth weledol ac unrhyw wybodaeth safonol arall sy’n cael ei defnyddio ar ddeunydd ysgrifennu, e-byst, gwefannau, deunyddiau cyhoeddusrwydd, ac ati.

Gwefannau

HBydd gwefannau Hafan Cymru yn ddwyieithog ac eithrio lle bydd cynnwys wedi ei ddarparu gan asiantaeth allanol. Gall hyn fod yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig, er y bydd cyfranwyr yn cael eu hannog i gyflwyno gwybodaeth yn ddwyieithog.