Tai

Landlord cymdeithasol ydym ni sydd wedi’n cofrestru gyda Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio ar hyd a lled rhannau helaeth o Gymru gan ddarparu tai a chymorth arbenigol i bobl agored i niwed. 

Ar y dechrau, roeddem yn darparu cymorth a thai i bobl a oedd â phrofiad o drais domestig. Ehangwyd ein gwasanaethau dros y blynyddoedd i gynnwys pobl sy’n wynebu mathau eraill o heriau – nad ydynt o reidrwydd yn ymwneud â cham-drin domestig.

Angen help yn awr?

Os ydych chi’n denant ac mae angen gwaith cynnal a chadw arnoch neu gymorth yn ymwneud â thai, ffoniwch ein prif swyddfa, sef 01267 225555 ac yna dewis yr opsiwn cywir ar gyfer y gwasanaeth y mae’i angen arnoch. Gallwch ymweld â’r dudalen nesaf ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ba aelod o’n tîm all helpu gyda’ch problem.