Mae gweithio i ni yn rhoi llawer o foddhad. Byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n cymryd rhan, yn cael eich gwerthfawrogi ac ein bod ni’n gwrando arnoch.

Cewch gefnogaeth i ragori yn eich rôl a hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu.

Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydyn ni’n cynnig cyfle i weithio’n hyblyg yn ogystal â phecyn buddion hael.

Os hoffech chi wneud gwahaniaeth, gweithio i gymdeithas uchel ei pharch a theimlo eich bod chi’n bwysig, yna dewch i ymuno â ni – mae’n lle gwych i weithio.

Buddion Staff

Rydym yn deall, ein hased pwysicaf yw’r bobl anhygoel sy’n gweithio gyda ni. Dyna pam rydym yn datblygu ein buddion cyflogaeth yn barhaus, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Absenoldeb Blynyddol Gwell – 27 diwrnod (+8 Gwyliau Banc)
  • Diwrnod ychwanegol ‘Hafan Cymru’.
  • Pensiwn 8%
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr
  • Cyflogwr Cyflog Byw Cenedlaethol
  • Ymgysylltu â Gweithwyr Gweithredol
  • Dysgu a Datblygu Strwythuredig
  • Tâl Salwch Galwedigaethol
  • Profion llygaid VDU